Ahmed Ali
Gwedd
Ahmed Ali | |
---|---|
Ganwyd | Casnewydd |
Galwedigaeth | ymchwilydd |
Cyflogwr |
Cemegydd o Gymru yw'r Dr Ahmed Ali, sydd wedi ennill gwobrau am ei waith ymchwil. Mae'n arbenigo yng nghemeg planhigion sy'n gynhenid i Gorn Affrica ac wedi ennill gwobrau am ei ddarganfyddiadau yn seiliedig ar y defnydd o'r resinau myrr a thus o Somalia, y naill yn erbyn canser a'r llall fel asiant gwrth-llidiol.[1]
Cafodd Ali ei eni a'i fagu yng Nghasnewydd[2] ac mae o dras Somali. Mae'n gweithio yn Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd ac wedi sefydlu cwmni biotech yng Nghaerdydd sy'n arloesi yn y defnydd o lysiau ym maes meddygaeth.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Black History Month - Brilliant, Black and Welsh".
- ↑ "Research scientist recognised for contribution to Welsh society". Cardiff University (yn Saesneg). 8 Hydref 2018. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2020.