Ahmad Kheireddine

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ahmad Kheireddine
Ahmed Kheireddine.png
Ganwyd 1905 Edit this on Wikidata
Tunis Edit this on Wikidata
Bu farw 25 Gorffennaf 1967 Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Ez-Zitouna
Galwedigaeth awdur Edit this on Wikidata

Roedd Ahmad Kheireddine (1905 - 25 Gorffennaf 1967) yn fardd a dramodydd yn yr iaith Arabeg o Diwnisia.

O dras Tyrcaidd, cafodd ei eni mewn amgylchiadau digon tlawd mewn ardal dosbarth gweithiol yn Nhiwnis. Gorffenodd ei astudiaethau yng ngholeg La Zitouna, yn y brifddinas, trwy ddarlen cyfieithiadau Arabeg o weithiau llenyddol Gorllewinol. Ond ymddiddorai yn y traddodiad brodorol yn ogystal ac aeth ati i astudio mydryddiaeth Arabeg a'i cherddoriaeth.

Roedd yn aelod o un o'r grwpiau llenyddol-wleidyddol yn Nhiwnis a wrthwynebai reolaeth Ffrainc ar eu gwlad. Ysgrifenodd nifer o ddramâu, rhai ohonyn' nhw'n seiliedig ar ddigwyddiadau hanesyddol, er enghraifft al-Kâhina (1937) sy'n bortread o'r arwres El Kahena a arweiniodd y Berber yn erbyn y goresgynwyr Arabaidd yn y 6g. Golygodd sawl cylchgrawn llenyddol a gwleidyddol.

Roedd yn fardd dawnus yn ogystal a ganai ar y mesurau poblogaidd; mae rhai o'i ganeuon yn cael eu gosod i gerddoriaeth o hyd yn Nhiwnisia.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]