Ahinoam

Oddi ar Wicipedia

Enw Hebraeg yw Ahinoam (Hebraeg: אֲחִינֹעַם) sy'n golygu brawd pleserau [1]

Mae dau gyfeiriad yn y Beibl at bobl sy'n dwyn yr enw:

  • Ahinoam #1 a ddaeth yn wraig i Saul
  • Ahinoam #2, a ddaeth yn ail wraig Dafydd

Ahinoam #1[golygu | golygu cod]

Roedd yr Ahinoam gyntaf yn ferch i Ahimaas.[2] Hi oedd gwraig Saul, brenin cyntaf Israel. Roedd hi'n fam i dri o fechgyn sy'n cael eu henwi Jonathan, Issui, a Malci-sua a dwy ferch; Merab a Michal. Cynigiodd Saul law Merab mewn priodas i Dafydd, ond fe wrthododd hi gan briodi Michal y ferch iau.

Ahinoam #2[golygu | golygu cod]

Dynes o Jesreel oedd yr ail Ahinoam.[3] Wedi anghydfod gyda Saul fe ffodd Dafydd i aros gyda Achis mab Maoch, brenin Gath, gadawodd Michal, ei wraig gyntaf gyda Saul ei thad ond aeth ag Ahinoam ac Abigail gydag ef.[4] Tra bod Dafydd a'i ddynion yn gwersylla ger Jesreel, cânt eu cipio gan Amaleciaid a oedd wedi ysbeilio tref Siclag a dygwyd ei ddwy wraig yn wystlon.[5] Arweiniodd Dafydd gyrch yn erbyn yr ymlidwyr gan achub ei wragedd. Esgorodd Ahinoam ar fab cyntaf Dafydd, Amnon.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Lle fo cyfeiriad yn destun Beiblaidd, bydd dilyn y cysylltiad yn mynd at rifyn Beibl William Morgan Cymdeithas Feiblaidd Prydain a Thramor, 1992 ar wefan Bible Gateway. Am destun mwy cyfoes gellir chwilio am yr un adnodau ar dudalen chwilio Beibl Net

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Rhestr o fenywod y Beibl