Afuad Gwenffrewi
Afuad Gwenffrewi Chiloscyphus polyanthos | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Jungermanniales |
Teulu: | Lophocoleaceae |
Genws: | Chiloscyphus |
Rhywogaeth: | C. polyanthos |
Enw deuenwol | |
Chiloscyphus polyanthos |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Afuad Gwenffrewi (enw gwyddonol: Chiloscyphus polyanthos; enw Saesneg: St Winifrid's moss). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru a gweddill gwledydd Prydain.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Mae'r cesynnau bach yn 1.5–4.5 mm o led, yn wyrddlas ac yn dryloyw, gan lifo i'w gilydd fel arfer ar ffurf plethwaith. Mae'r dail ochrol hyd at tua 2 mm o hyd a lled, yn fwy neu'n llai bob yn ail, ac yn grwm.
Mae Afuad gwenffrewi (C. polyanthos) yn tyfu mewn nentydd neu wlyptir, a bron y dylid ei ddosbarth fel rhywogaeth dyfrol.
Llysiau'r afu
[golygu | golygu cod]- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/77/Open_Access_logo_PLoS_transparent.svg/12px-Open_Access_logo_PLoS_transparent.svg.png)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/c/c4/Llen-Natur-1-transparent.png/45px-Llen-Natur-1-transparent.png)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.