Afon Rhondda
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6159°N 3.4107°W, 51.6004°N 3.3406°W |
Aber | Afon Taf |
Hyd | 5 cilometr |
Mae Afon Rhondda yn afon yn ne Cymru sy'n cael ei ffurfio lle mae dwy afon, afonydd Rhondda Fawr a Rhondda Fach yn cyfarfod. Er gwaethaf eu henwau mae'r ddwy tua'r un hyd.
Mae Afon Rhondda Fawr yn tarddu ger Llyn Fawr ac yn llifo i lawr Cwm Rhondda i ymuno ag Afon Tâf gerllaw Pontypridd. Mae'n llifo trwy Blaenrhondda lle mae Nant y Gwair yn ymuno â hi, yna trwy gyfres o bentrefi a threfi glofaol yn cynnwys Treherbert, Treorci, Pentre, Ton Pentre, Ystrad Rhondda, Llwynypia, Tonypandy, Dinas Rhondda, Y Porth a Threhafod.
Ceir tarddiad Afon Rhondda Fach ar y bryniau uwchben Blaenrhondda, yn agos i darddiad Rhondda Fawr. Mae'n llifo trwy gronfa Lluestwen yna trwy Maerdy a Glynrhedynog, Pendyrus ac Ynyshir cyn ymuno â Rhondda Fawr yn y Porth.
Ym mlynyddoedd mawr y diwydiant glo, yr oedd dŵr o'r glofeydd yn cael ei bwmpio yn syth i'r afon, ac roedd hyn yn ogystal â charthffosiaeth annigonol yn creu llygredd difrifol yn yr afon. Ers dechrau'r 1970au mae ansawdd dŵr yr afon wedi gwella'n raddol.