Neidio i'r cynnwys

Afon Pripyat

Oddi ar Wicipedia
Afon Pripyat
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirKyiv Oblast, Gomel Region, Brest Region Edit this on Wikidata
GwladBaner Belarws Belarws
Baner Wcráin Wcráin
Cyfesurynnau51.333291°N 23.790475°E, 51.1917°N 30.4819°E Edit this on Wikidata
TarddiadWcráin Edit this on Wikidata
AberAfon Dnieper Edit this on Wikidata
LlednentyddPina, Afon Yaselda, Afon Tsna, Afon Lan, Afon Sluch, Pcič, Ipa, Afon Braginka, Afon Horyn, Afon Stokhid, Afon Styr, Afon Turija, Afon Ubort, Afon Uzh, Slovechna, Tenetyska, Vyzhivka, Stviga, Zhelon, Upper Bobryk, Lower Bobryk, Tremlya, Tur, Vyboy River, Mytva, Salakucha, Svіnavod, Skolodina, Wić, Skrypіca, Little Turia, Naravlyanka, Veratsёnka, Vetlitsa, Zakovanka, Smierdź, Buklёvka, Nienač, Turaŭ-Algomelski-canal, Krushynnaya, Pieradoĺ, Mikaševicki Edit this on Wikidata
Dalgylch114,300 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd775 cilometr, 748 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad460 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Rheolir ganBasin Agency of Water Resources of Prypiat River Edit this on Wikidata
Map

Yr afon fwyaf sy'n llifo fewn i Afon Dnieper yw Afon Pripyat, neu hefyd yn Gymraeg, Pripiat (Wcreineg Прип'ять, Belarwseg Прыпяць neu Prypjaz, Rwsieg Припять neu Pripyat, Pwyleg Prypeć, Lithwaneg Pripetė, Almaeneg Pripetz) . Mae'n llifo drwy Belarws ac Wcráin yn Nwyrain Ewrop.

Nodir hefyd, y geir tref o'r enw Pripyat yn Iwcrain. Dyma oedd y dref lle ffodd y trigolion yn dilyn tanchwa niwclear Chernobyl yn 1985.

Cwrs Afon Pripyat drwy Belarws ac Iwcrain

Mae'r afon 775 km o hyd yn tarddu o'r ogledd-orllewin eithafol Wcráin ger y ffin â Gwlad Pŵyl. O'r mynydd-dir hwn mae'n llifo i'r dwyrain am 200 km nes bydd yn croesi'r ffin â Belarws. Yno, mae'n llifo trwy'r diroedd isel Palessje a Chorsydd Pinsk, lle mae'n trawsnewid y tirlun wedi i'r eira doddi i dirlun o lynnoedd, corsydd ac ynysoedd goedwiog. Mae 50 cilomedr olaf y Pripyat llifo nôl fewn i Wcrain, yna ychydig o gilometrau islaw hen atomfa niwclear Chernobyl fewn i gronfa ddŵr dinas Kiev ac i mewn i'r Dnepr ac yn y pendraw i mewn i'r Môr Du.

Yn y 1930au, draeniwyd llawer o ardal y Paless gan ryddhau dŵr drwy'r Pripyat.

Y dref fwyaf ar yr Pripyat yw Pinsk ym Melarws, lle bydd camplas Dnieper-Bug yn cwrdd ag Afon Pina. Mae'r trefi Prypjats a Chernobyl sydd yn dalgylch y Pripyat wedi eu heffeithio ddrwg gan drychineb Chernobyl a tanchwa yr orsaf niwclear yn 1985.

Y Pripyat mewn Diwylliant

[golygu | golygu cod]

Credir mai ardal y Pripyat yw mamwlad yr ieithoedd Slafig gan rai fel y botanydd Pwyleg, Józef Rostafiński, am fod geiriau cynnar o'r iaith proto-Slafic yn brin o eiriau sy'n cyfeirio ar dirwedd, planhigion a choed nad sydd yng nghorsydd Prityat.[1]

Mae'r afon yn chwarae rhan mewn caneuon o'r ardal, megis y gân Pripyat Polka gan Yad Kalashnikov Ban, [2] a cheir cyfeiriad i'r afon a'i hardal yn y gân Klezmer Iddewig Chernobyl gan y band Brave Old World.[3]

Etymoleg

[golygu | golygu cod]

Noda Max Vasmer yn ei ddyddiadur etymolegol mai'r enw hanesyddol ar yr afon fel y'i galwyd yn y Brif Gronicl, y ddogfen Dwyrain Slafonig gynharaf, yw Pripet (Припеть). Noda farn ieithyddwyr bod y gair yn golygu "isafon" (tributary) gan ei gymharu i wrieddiau tebyg yn y Lladin a Groeg. Mae hefyd yn ymwrthod â'r farn fod y gair yn dod o'r gwraidd -пять, yn hytrach na'r gwreiddiol, -петь.[4]

Gall y gair hefyd ddeillio o'r gair lleol pripech a ddefnyddir i ar gyfer afon gyda glan tywodlyd.[5]

Dolenni

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. https://books.google.co.uk/books?id=rcFGhCVs0sYC&redir_esc=y
  2. https://www.youtube.com/watch?v=Lba1HOyEYUo
  3. https://www.youtube.com/watch?v=XGtvJpdp-Ac
  4. Max Vasmer, Etymological dictionary of the Russian language, s.v. "Припять"
  5. Room, Adrian (1997). Placenames of the World. Jefferson, Gogledd Carolina: McFarland.