Afon Llafar (Carneddau)
Gwedd
Cwrs uchaf Afon Llafar ger Ysgolion Duon | |
| Math | afon |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gwynedd |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 53.175°N 4.058°W |
![]() | |
Afon yn y Carneddau, Eryri, yw Afon Llafar. Mae'n tarddu lle mae nifer o nentydd yn llifo i lawr llethrau Yr Elen, Carnedd Llywelyn a Carnedd Dafydd i ymuno â'i gilydd yn y cwm islaw creigiau Ysgolion Duon. Mae'n un o sawl ffrwd o'r enw yng Nghymru.
Mae'r afon yn llifo tua'r gogledd-orllewin ar hyd Cwm Pen-llafar, ac mae afon Caseg yn ymuno â hi gerllaw Gerlan, cyn ymuno ag Afon Ogwen yng nghanol Bethesda.
