Afon Geirch

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Afon Geirch
Math Afon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.942°N 4.568°W Edit this on Wikidata

Afon yn Llŷn, Gwynedd, yw Afon Geirch. Mae'n aberu ym Mae Caernarfon ger Porthdinllaen. Ei hyd yw tua 7 milltir.

Tardda Afon Geirch yng ngwlybdiroedd Cors Geirch, sy'n Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ger Rhyd-y-clafdy tua 4 milltir i'r gorllewin o dref Pwllheli. Llifa ar gwrs i gyfeiriad y gogledd-orllewin gan basio Garn Boduan ac Edern i gyrraedd y môr ym mae Aber Geirch, i'r de o Borthdinllaen a thua 1.5 milltir i'r gorllewin o Forfa Nefyn.[1] Mae Llwybr Arfordir Llŷn yn mynd trwy Aber Geirch.

Aber Afon Geirch

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Map OS 1:50,000 Landranger 123.
WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato