Afon Clun (Swydd Amwythig)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Afon Clun
ClunBridge2c.jpg
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Amwythig Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.425°N 2.897°W Edit this on Wikidata
AberAfon Tefeidiad Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Unk, Afon Redlake, Afon Kemp Edit this on Wikidata

Afon yn Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Afon Clun neu Afon Colunwy. Mae'n llifo trwy dref fechan Clun (Colunwy), yn ogystal â Newcastle a phentrefi eraill. Llifir i Afon Tefeidiad yn Leintwardine.

Gorwedd tarddle yr afon ger pentref Anchor yn Ffos y Rhes, bron am y ffin â Powys, Cymru. Mae Dyffryn Clun yn ardal wledig iawn sy'n rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Swydd Amwythig.

Mae'r ffurf Clun yn dod o enw Cymraeg, sef Colynwy. Enwyd cantref canoloesol Colunwy ar ôl yr afon a cheir Fforest Colunwy hefyd.

England-geo-stub.png Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Lloegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.