Afon Cilieni

Oddi ar Wicipedia
Afon Cilieni
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52°N 3.5°W Edit this on Wikidata
Map

Afon fer yn ne Powys, Cymru, yw Afon Cilieni. Gall yr enw olygu "afon sy'n tarddu mewn cilfach".[1] Mae'n tarddu ar lethrau deheuol Mynydd Epynt o fewn ardal hyfforddi filwrol y Fyddin Brydeinig ac yn llifo trwy bentrefannau Pentre-bach a Phentre'r-felin ar ei ffordd i'w chydlifiad ag Afon Wysg tua 2 km i'r dwyrain o Bontsenni.

Mae Afon Cilieni yn Ardal Gadwraeth Arbennig ar gyfer pysgod amrywiol gan gynnwys tair rhywogaeth benodol: y llysywen bendoll, y wangen a'r penlletwad.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-names of Wales (Gomer, 2007), t.86
Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.