Afon Cain
Gwedd
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/51/Afon_Cain_south_of_Llanfechain_-_geograph.org.uk_-_601546.jpg/250px-Afon_Cain_south_of_Llanfechain_-_geograph.org.uk_-_601546.jpg)
Afon yng ngogledd Powys sy'n llifo i mewn i Afon Efyrnwy yw Afon Cain. Mae hi'n tarddu ychydig i'r gorllewin o Lanfyllin, lle mae Nant Ffyllon a Nant Alan yn ymuno i'w ffurfio. Wedi llifo trwy Lanfyllin, mae hi'n parhau tua'r dwyrain, ochr yn ochr a'r briffordd A490, yna'r troi tua'r gogledd-ddwyrain heibio i Lanfechain, wedyn tua'r dwyrain eto i ymuno ag Efyrnwy ger Llansanffraid-ym-Mechain. Llansanffraid (cymuned)