Afon Cadnant
Gwedd
| Math | afon |
|---|---|
| Cysylltir gyda | Cwm Cadnant |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 53.244°N 4.15°W |
| Tarddiad | Llandegfan |
| Aber | Afon Menai |
![]() | |
| Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
| Manylion | |
Afon ar Ynys Môn sy'n llifo i mewn i Afon Menai yw Afon Cadnant. Ceir ei tharddle i'r gogledd o bentref Llandegfan, lle mae nifer o nentydd yn cyfarfod. Llifa tua'r de ar hyd Cwm Cadnant i gyrraedd Afon Menai ychydig i'r dwyrain o dref Porthaethwy. Ceir olion nifer o felinau dŵr ar hyd yr afon, ac mae Coed Cadnant, yn rhan isaf Cwm Cadnant, wedi ei ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Rhydd yr afon ei henw i gymuned Cwm Cadnant.

