Afon Busento
Gwedd
| Math | afon |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | Yr Eidal |
| Cyfesurynnau | 39.2925°N 16.259°E, 39.292461°N 16.258993°E |
| Aber | Crathis |
| Hyd | 90 cilometr |
| Arllwysiad | 3 metr ciwbic yr eiliad |
![]() | |
Mae Afon Busento yn afon yn rhanbarth Calabria, yn ne'r Eidal, sy'n llifo am 95 km o'r Apenninau i aberu yng Ngwlff Taranto ym Môr Ionia. Mae'n ymuno ag Afon Crathis yng nghanol tref Cosenza.
Mae Afon Busento yn enwog am ddigwyddiad hanesyddol yn y flwyddyn 412, pan fu farw Alaric I, brenin y Gothiaid, pan oedd Cosenza dan warchae. Yn ôl y traddodiad, fe'i claddwyd dan wely'r afon, ar ôl i'r llif gael ei throi dros dro o'i chwrs arferol er mwyn cloddio'r bedd. Does neb hyd yn hyn wedi llwyddo i ddarganfod bedd y brenin a'i drysor. Cyfansoddodd y bardd Almaeneg August Graf von Platen-Hallermünde y gerdd "Das Grab im Busento" i goffhau'r digwyddiad.

