Afiechyd a gludir gan fwyd
| Enghraifft o: | math o glefyd |
|---|---|
| Math | meddwdod, food-related disease |
| Arbenigedd meddygol | Medical toxicology |
| Symptomau | Poen yn yr abdomen, dolur rhydd, cur pen, chwydu |
| Achos | Food-borne transmission, halogydd bwyd |
| Dynodwyr | |
| Thesawrws NCI | C128351 |
| Freebase | /M/02m76d |
| MeSH | D005517 |
| UMLS CUI | C0679360 |
| Quora | Foodborne-illness |
Mae afiechydon a gludir gan fwyd (neu glefydau a gludir gan fwyd neu wenwyn bwyd) yn cynnwys unrhyw salwch sydd o ganlyniad i fwyd wedi'i ddifetha o fwyd wedi'i halogi, bacteria pathogenig, firysau, neu barasitiaid sy'n halogi bwyd,[1] ynghyd â thocsinau megis madarch gwenwynig a gwahanol rywogaethau o ffa sydd heb eu berwi am o leiaf deg munud.
Mae symptomau'n amrywio yn dibynnu ar yr achos, a chânt eu disgrifio isod yn yr erthygl hon. Mae'r cyfnod datblygu yn amrywio o oriau hyd at ddyddiau, yn dibynnu ar yr achos a faint gafodd ei fwyta. Mae'r cyfnod datblygu yn dueddol o olygu nad yw pobl yn cysylltu'r symptomau â'r eitem a gafodd ei fwyta, ac yn meddwl mai gastroenteritis neu bethau tebyg sydd i'w feio.
Mae symptomau yn aml yn cynnwys chwydu, gwres a pheonau, a gall gynnwys dolur rhydd. Gall cyfnodau o chwydu ddigwydd yn aml gyda chyfnod hir rhynddynt, oherwydd hyd yn oes os yw'r bwyd wedi'i waredu o'r stumog y tro cyntaf, gall microbau (os yn berthnasol) basio trwy'r stumog i'r coluddyn drwy gelloedd sy'n leinio waliau'r coluddyn a dechrau lluosogi. Mae rhai mathau o yn aros yn y coluddyn, ac mae rhai yn cynhyrchu tocsin sy'n cael ei amsugno i'r gwaed, a gall rhai fynd yn uniongyrchol i feinwe dyfnach y corff.
Achosion
[golygu | golygu cod]Mae afiechyd a gludir gan fwyd fel arfer o ganlyniad i ymdrin, paratoi neu storio bwyd yn amhriodol. Gall arferion hylendid da cyn, yn ystod ac ar ôl paratoi leihau'r tebygolrwydd o gael afiechyd. Mae cydsyniad yng nghymuned iechyd y cyhoedd mai golchi dwylo'n rheolaidd yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal lledaenu afiechydon a gludir gan fwyd. Gelwir y weithred o sicrhau na fydd bwyd yn achosi afiechyd a gludir gan fwyd yn ddiogelwch bwyd. Gall afiechydon a gludir gan fwyd hefyd gael eu hachosi gan ystod eang o docsinau sy'n effeithio'r amgylchedd.[2]
Ar hynny, gall afiechydon a gludir gan fwyd gael eu hachosi gan blaleiddiaid neu feddyginaethau mewn bwyd, a sylweddau tocsig naturiol megis madarch gwenwynig neu bysgod rîff.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Foodborne Illness - Frequently Asked Questions". US Centers for Disease Control and Prevention. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mawrth 2011. Cyrchwyd 3 Gorffennaf 2016.
- ↑ For foodborne illness caused by chemicals, see Food contaminants.