Halogydd bwyd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Mae halogiad bwyd yn cyfeirio at bresenoldeb cemegion niweidiol a micro-organebau mewn bwyd a all achosi salwch mewn defnyddwyr. Mae'r erthygl hon yn mynd i'r afael â halogiad cemegol mewn bwydydd, yn hytrach na halogiad microbiolegol, sydd ar gael dan afiechydon a gludir gan fwyd.

Nid yw effaith halogion cemegol ar iechyd a lles y cyhoedd yn dod i'r amlwg ar ôl nifer o flynyddoedd o'u prosesu. Gall cysylltiad am gyfnod hir ar lefelau isel (e.e. cancr). Yn aml, nid yw halogion cemegol sydd mewn bwydydd yn cael eu heffeithio gan brosesu â gwres (yn annhebyg i'r mwyafrif o gyflyrrau micrbiolegol). Gellir dosbarthu halogion cemegol yn ôl ffynhonnell yr halogiad, a'r modd maent yn mynd i'r cynnyrch bwyd. 

Halogion amgylcheddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cemegion sy'n bresennol yn yr amgylchedd lle caiff y bwyd ei dyfu, ei gynaeafu, ei gludo, ei storio, ei becynnu, ei brosesu a'i fwyta yw halogion amgylcheddol. Mae cyswllt ffisegol y bwyd â'i amgylchedd yn arwain at ei galogi. Mae ffynhonellau halogiad posibl yn cynnwys: 

  • Aer: radionuclides (137Caesiwm, 90Strontiwm), hydrocarbonau aromatig polycycig (PAH)
  • Dŵr: arsenig, merciwri
  • Pridd: cadmiwm, nitradau, percloradau
  • Biffenylau polyclorinedig (PCB), diocsinau, a polybrominated diphenyl ethers (PBDE) yn gemegion hollbresennol
  • Deunyddiau pecynnu: antimoni, tun, plwm, asid perfluorooctanoic (PFOA), semicarbazide, benzophenone, isopropyl thioxanthone (ITX), bisphenol A
  • Offer prosesu/coginio: copr, neu ddarnau metal eraill, ireidiau, glanhau, a glanedyddion
  • Tocsinau naturiol: mycotocsinau, phytohaemagglutinin, alcaloidau pyrrolizidine, grayanotocsin, tocsinau madarch, scombrotoxin (histamin), ciguatera, tocsinau pysgod cregyn (gweler gwenwyn pysgod cregyn), tetrodotocsin, ymhlith nifer o rai eraill.

Plaleiddiaid a charsinogenau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae nifer o achosion o blaleiddiaid neu garsinogenau wedi'u gwahardd wedi'u canfod mewn bwyd.

  • Yn 2006, amlygodd Greenpeace yn Tsieina bod 25% o gynhyrchion amaethyddol archfarchnadoed a arolygwyd yn cynnwys plaleiddiaid a oedd wedi'u gwahardd. Canfuwyd bod dros 70% o domatos a brofwyd yn cynnwys y plaleiddiad Lindane, ac roedd bron i 40% o'r samplau'n cynnwys cymysgedd o dri math neu'n fwy o blaleiddiaid. Profwyd ffrwythau hefyd yn rhan o'r ymchwiliad.
  • Yn India, canfuwyd diodydd meddal â lefelau uchel o blaleiddiad, gan gynnwys lindane, DDT, malathion a chlorpyrifos.[1]
  • Canfuwyd Formaldehyde, sy'n garsinogen, mewn pryd cenedlaethol o Fietnam, Pho, yn 2007. Canfuwyd bod llysiau a ffrwythau hefyd yn cynnwys y plaleiddiaid gwaharddedig. Datganodd y papur dyddiol Thanh Nien "Health agencies have known that Vietnamese soy sauce, the country's second most popular sauce after fish sauce, has been chock full of cancer agents since at least 2001", "Why didn't anyone tell us?"[2] Y carsinogen yn sawsiau Asia yw 3-MCPD a'i metabolite 1,3-DCP, sydd wedi bod yn broblem barhaus ers cyn 2000, ac yn effeithio nifer o gyfandiroedd.
  • Braw bwyd Indonesia 2005, roedd y carsinogen formaldehyde yn cael ei ychwanegu fel ychwanegyn i nwdls, tofu, pysgod wedi'u halltu, a pheli cig
  • Sgandal llaeth Tsieina 2008

Gwallt mewn bwyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae llawer o stigma mewn perthynas â phresenoldeb gwallt mewn bwyd yn y mwyafrif o gymunedau. Mae perygl y gall achosi tagu a chwydu, ac hefyd y gallai fod wedi'i halogi â sylweddau tocsig.[3] Mae gwahanol farn o ran y lefel o risg mae'n ei achosi i'r defnyddiwr diofal.[4][5][6]

Weithiau defnyddir protein o wallt pobl fel cynhwysyn,[7] mewn bara a chynhyrchion o'r fath. Mae defnyddio gwallt yn y modd hwn wedi'i wahardd yn Islam.[8] Historically, in Judaism, finding hair in food was a sign of bad luck.[9]

Halogion prosesu[golygu | golygu cod y dudalen]

Caiff halogion prosesu eu cynhyrchu yn ystod prosesu bwyd (e.e. gwresogi, eplesu). Maen nhw'n absennol yn y deunyddiau crai, a chânt eu ffurfio gan adweithiau cemegol rhwng cyfansoddion bwyd naturiol a/neu wedi'u hychwanegu yn ystod prosesu. Ni ellir osgoi presenoldeb yr halogion hyn mewn bwydydd wedi'u prosesu yn llwyr. Er hynny, gellir diwygio a/neu wella prosesau technegol er mwyn lliehau'r lefelau ffurfio halogion prosesu. Mae rhai enghreifftiau'n cynnwys: nitrosamines, hydrocarbonau aromatig polycyclig (PAH), heterocyclic amines, histamin, acrylamid, furan, benzene, braster trans, 3-MCPD, semicarbazide, 4-hydroxynonenal (4-HNE), ac ethyl carbamate. Mae hefyd y posibiliad o ddarnau metal o'r offer prosesu yn halogi bwyd. Gellir canfod y rhain drwy ddefnyddio offer canfod metalau. 

Halogion bwyd sy'n dod i'r amlwg[golygu | golygu cod y dudalen]

Er bod nifer o halogion bwyd yn wybyddus ers degawdau, mae presenoldeb rhai cemegion penodol a sut cânt eu ffurfio wedi'u canfod yn weddol ddiweddar. Dyma'r halogion bwyd sy'n dod i'r amlwg, megis acrylamid, furan, benzene, perchlorate, perfluorooctanoic acid (PFOA), 3-monochloropropane-1,3-diol (3-MCPD), 4-hydroxynonenal, a (4-HNE).

Diogelwch a rheoleiddio[golygu | golygu cod y dudalen]

Caiff lefelau derbyniol dyddiol (Acceptable Daily Intake) a chrynodiadau goddefiad halogion mewn bwydydd unigol eu pennu ar sail y "Lefel Dim Effaith Niweidiol wedi'i Nodi" (NOAEL) mewn arbrofion ar anifeiliaid, gan ddefnyddio'r ffactor diogelwch (100 fel arfer). Mae'r crynodiadau uchaf o halogion a ganiateir yn ôl deddfwriaeth yn aml llawer yn is na lefelau goddefiad gwenwyndra, oherwydd gellir cyflawni lefelau o'r fath yn rhesymol drwy arferion amaethyddol a gweithgynhyrchu da.

Profi halogion bwyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Er mwyn cadw ansawdd uchel bwyd a chydymffurfio â safonau rheoleiddio iechyd, diogelwch ac amgylcheddol, argymhellir dibynnu ar brofion halogion bwyd drwy drydydd parti annibynnol megis labordau, cwmniau ardystio neu debyg. Ar gyfer gweithgynhyrchwyr, gall profi am halogion bwyd leihau'r perygl o ddiffyg cydymffurfio mewn perthynas â chynhwysion amrwd, bwydydd sydd wedi'u gweithgynhyrchu'n rhannol a'r cynhyrchion terfynol. Ar hynny, mae profion halogion bwyd rhoi sicrwydd o ran diogelwch defnyddwyr ac ansawdd y cynhyrchion bwyd sydd wedi'u prynu, a gall atal clefydau a gludir gan fwyd, a pheryglon cemegol, microbiolegol neu ffisegol.[10]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Bad Bug Book gan U.S. Food and Drug Administration
  • The Joint FAO/WHO Expert Committee Report on Food Additives

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. TribhuMRatta (Nov 5, 2008). "Ban the Colas!". MeriNews. http://www.merinews.com/catFull.jsp?articleID=146797.
  2. "Toxic soy sauce, chemical veggies -- food scares hit Vietnam". AFP (Hanoi: Google News). Sep 11, 2007. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2010-01-19. https://web.archive.org/web/20100119040101/http://afp.google.com/article/ALeqM5iiMrrBvLTLGX3P0uXmSqeT1Zjayw.
  3. Valdes Biles P.; Ziobro G. C. (August 2000). "Regulatory Action Criteria for Filth and Other Extraneous Materials IV. Visual Detection of Hair in Food". Regulatory Toxicology and Pharmacology (Academic Press) 32 (1): 73–77. doi:10.1006/rtph.2000.1403. ISSN 0273-2300. PMID 11029271. http://www.ingentaconnect.com/content/ap/rt/2000/00000032/00000001/art01403.
  4. "Food Quality issue 08 09 2005". http://www.foodquality.com/mag/08092005/fq_08092005_FE1.html.
  5. "Kitsap County Health". http://www.kitsapcountyhealth.com/environmenta_health/food/docs/facts_hairrestraints.pdf..
  6. John Lucey (06-01-2006). Management Should Serve as Role Models for Good Work Habits and Acceptable Hygienic Practices. http://www.foodquality.com/mag/06012006_07012006/fq_06012006_SS1.htm.
  7. Justin Rowlatt (10 Jan 2007). "Does your daily bread contain human hair?". http://www.bbc.co.uk/blogs/newsnight/2007/01/does_your_daily_bread_contain_human_hair.html.
  8. Amir Khan (1996). "Halaal/Haraam Food Awareness". Archifwyd o y gwreiddiol ar October 22, 2009. https://web.archive.org/web/20091022204853/http://geocities.com/CollegePark/Quad/2406/islam1.htm.
  9. Howard Schwartz (1991). Lilith's Cave: Jewish Tales of the Supernatural. ISBN 0-19-506726-6. 
  10. Study finds novel method to test food for contamination

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]