Adrenalin

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Adrenalin
Data cyffredinol
Dynodwyr
Arall

Niwrodrosglwyddydd, hormon a meddyginiaeth yw Adrenalin a adnabyddir hefyd dan yr enw Epinephrine.[1] Fel arfer. mae'n cael ei gynhyrchu gan y chwarennau adrenal a mathau arbennig o niwronau.[1] Mae'n allweddol ym mhenderfyniad person sydd dan fygythiad pa un ai ffoi neu wrthsefyll yr ymosodiad, neu'r broblem drwy gynyddu llif y gwaed i'r cyhyrau, y llif o'r galon, chwyddo cannwyll y llygaid a chynyddu faint o siwgwr sydd yn y gwaed.[2][3] Gwna hyn drwy rwymo'i hun i'r derbynyddion alffa a beta.[3]

Fe'i ceir yn y rhan fwyaf o anifeiliaid a rhai organebau ungellog (protosoa).[4][5] Napoleon Cybulski oedd y cyntaf i ddarganfod adrenalin, a hynny yn 1895.[6]

Geirdarddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r gair Lladin adrenalin yn golygu 'tua'r arennau', lle lleolir y chwarren adrenal. Mae'n derm masnachol a rhoddwyd masnach fraint (neu trademark) ar yr enw yn dilyn bathu'r term gan Jokichi Takamine yn 1901; cofrestrwyd y fasnach fraint gan Parke, Davis & Co yn Unol Daleithiau America. Oherwydd hyn, mae'r term 'adrenalin' yn araf golli ei blwyf a'r defnydd o'r term anfasnachol Epinephrine yn cynyddu.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Lieberman M, Marks A, Peet A (2013). Marks' Basic Medical Biochemistry: A Clinical Approach (4th ed.). Philadelphia: Wolters Kluwer Health/Lippincott Williams & Wilkins. p. 175. ISBN 9781608315727. 
  2. Bell DR (2009). Medical physiology : principles for clinical medicine (3rd ed.). Philadelphia: Lippincott Williams & Wilkins. p. 312. ISBN 9780781768528. 
  3. 3.0 3.1 Khurana (2008). Essentials of Medical Physiology. Elsevier India. p. 460. ISBN 9788131215661. 
  4. Buckley E (2013). Venomous Animals and Their Venoms: Venomous Vertebrates. Elsevier. p. 478. ISBN 9781483262888. 
  5. Animal Physiology: Adaptation and Environment (5th ed.). Cambridge University Press. 1997. p. 510. ISBN 9781107268500. 
  6. Szablewski, Leszek (2011). Glucose Homeostasis and Insulin Resistance (in Saesneg). Bentham Science Publishers. p. 68. ISBN 9781608051892. 
  7. "Naming human medicines – GOV.UK". http://www.mhra.gov.uk/Howweregulate/Medicines/Namingofmedicines/ChangestomedicinesnamesBANstorINNs/index.htm.