Adam West

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Adam West

West yn The Detectives, 1961
Ganwyd William West Anderson
(1928-09-19)19 Medi 1928
Walla Walla, Washington, U.D.A.
Bu farw 9 Mehefin 2017(2017-06-09) (88 oed)
Los Angeles, California
Alma mater Whitman College
Gwaith Actor
Gweithgar 1954–2017
Enwog am
Teledu
Priod
  • Billie Lou Yeager (pr. 1950; ysg. 1956)
  • Ngahra Frisbie (pr. 1957; ysg. 1962)
  • Marcelle Tagand Lear (pr. 1970–2017)
Plant 6
Gwefan
adamwest.com

Roedd Adam West (19 Medi 19289 Mehefin 2017) yn actor, cyfarwyddwr ac artist llais Americanaidd. Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Batman yn y gyfres deledu Batman o’r 1960au ac fel tros-lesisydd cymeriad y maer Adam West yn y gyfres cartŵn Family Guy.

Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd West yn Walla Walla, Washington yn fab i Otto West Anderson, ac Audrey Speer ei wraig. Roedd ei mam o dras Gymreig. Ffermwr oedd ei dad a chantores opera oedd ei fam.[1]

Cafodd ei addysg yn ysgol uwchradd Walla Walla, a Choleg Whitman.

Bu’n briod i Billie Lou Yeager o 1950 hyd eu hysgariad ym 1955. Yna priododd Frisby Dawson ym 1957 cyn ei hysgaru ym 1962 , a phriodi Marcella Tagland Lear ym 1970. Bu’n dad i chwech o blant.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Tooley, James E. (director) (2013). Starring Adam West (Documentary). Unol Daleithiau America: Chromatic Films.