Achos llys Altsasu

Oddi ar Wicipedia
Protestiadau yn 2016 yn erbyn dulliau "llawdrwm" Llywodraeth Sbaen.
Trigolion Nafarroa yn dangos eu gwrthwynebiad y tu allan i Lys Audiencia Nacional yn Madrid, Sbaen; Ebrill 2018.

Ystyrir achos llys Altsasu yn achos hynod bwysig parthed diffiniad Sbaen o 'derfysgaeth'. Ar 15 Hydref 2016 wedi ffrwgwd mewn tafarn yn nhref Altsasu, Nafarroa, Gwlad y Basg, arestiwyd wyth o lanciau lleol am anafu dau Guardia Civil, sef heddweision milwrol Sbaen a'u partneriaid. Dywedir iddynt ddioddef anafiadau "seicolegol".[1][2]

Ers Hydref 2016 cadwyd tri o'r wyth llanc yn y ddalfa, a throsglwyddwyd eu hachos o Iruña, Nafarroa ('Navarre' yn Sbaeneg), fel sy'n arferol i achosion o gamfihafio, i lys arbennig yn Madrid, yr Audiencia Nacional, a fydd yn eistedd ym Mai 2018. Rhyddhawyd y 5 arall ar fechniaeth. Trosglwyddwyd yr achos yn eu herbyn yn dilyn cais gan Tribunal Supremo de España, sef uchel lys Sbaen, sy'n cael ei reoli'n uniongyrchol gan Lywodraeth Sbaen, yn wahanol i weddill gwledydd Ewrop, ble mae llywodraeth a llysoedd bron yn gyfangwbwl ar wahân. Gwnaed y cais wedi i'r llys lleol yn Iruña daflyd y cyhuddiad o derfysgaeth allan drwy'r ffenest.[3]

Mae'r llanciau'n wynebu 62 mlynedd o garchar, ar wahân i un o'r llanciau sy'n wynebu 12 blwyddyn.[4]

Llawdrwm[golygu | golygu cod]

Ymhlith y cyrff hynny sydd wedi mynegi cytuno gyda dulliau'r Llywodraeth yn yr achos yma mae plaid geidwadol Sbaen, Partido Popular a Ciudadanos (Basgeg: Hiritarrak) gan fynegi fod cysylltiad rhwng y llanciau ag ETA (Euskadi Ta Askatasuna), mudiad sy'n hawlio annibyniaeth i Wlad y Basg.[5][6][7] Yn ôl Amnest Rhyngwladol, fodd bynnag, ni ddylid ystyried y troseddwyr yn 'derfysgwyr' a bod y dull maen nhw'n cael eu trin gan Sbaen yn llawer rhy llawdrwm.[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Parra | AP, Aritz (16 Ebrill 2018). "Terrorism accusation in Basque bar brawl reopens old wounds". Washington Post (yn Saesneg). ISSN 0190-8286. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-05-03. Cyrchwyd 2018-04-29.
  2. Madrid, Pascale Davies in (14 Ebrill 2018). "Basque bar fight trial tests 10 years of fragile peace in the region". the Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-05-02.
  3. España, La Nueva. "El fiscal pide 62 años a un detenido de Alsasua, 50 a otros seis y 12 a un octavo". Cyrchwyd 29 Ebrill 2018.
  4. España, La Nueva. "El fiscal pide 62 años a un detenido de Alsasua, 50 a otros seis y 12 a un octavo". Cyrchwyd 29 Mai 2018.
  5. Cuevas, Paloma (17 Mai 2018). "Vivas a España y a la Guardia Civil en el acto en apoyo a los agentes de Alsasua". Libertad Digital (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 2018-04-29.
  6. Doria, Javier Lorente (2018-04-17). "Víctimas de ETA congregan a cientos de personas en apoyo a las víctimas de Alsasua". EL PAÍS (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 29 Mai 2018.
  7. Pérez, Fernando J. (2018-04-24). "La Guardia Civil relaciona la agresión de Alsasua con la estrategia de ETA". EL PAÍS (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 30 Mai 2018.
  8. Vasca, EiTB Radio Televisión Pública. "AI, sobre el 'Caso Alsasua': 'No debe existir definición vaga de terrorismo'". www.eitb.eus (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 29 Mai 2018.