Abbotsfield, Ffordd Rhosddu, Wrecsam

Oddi ar Wicipedia
Abbotsfield
Mathgwesty, tafarn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadWrecsam
SirWrecsam
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr86 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.050735°N 2.995831°W Edit this on Wikidata
Cod postLL11 2LP Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolyr Adfywiad Gothig Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Adeilad hanesyddol rhestredig gradd II yn Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Abbotsfield.

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Mae Abbotsfield yn sefyll ar Ffordd Rhosddu, ar y gyffordd gyda Ffordd Grosvenor, ar gyrion canol Wrecsam, yn ardal gadwraeth Ffordd Grosvenor.

Hanes[golygu | golygu cod]

Adeiladwyd Abbotsfield yn 1863 fel tŷ preifat, yn seiliedig ar gynllun gan y pensaer lleol JR Gummow ar gyfer Mr Edward Jones. [1] Roedd Gummow yn gyfrifol ar gyfer rhan fawr o ddatblygiad maestrefol y dref yn rhan olaf yr 19eg ganrif. [2]

Roedd Abbotsfield y tŷ cyntaf gafodd ei adeiladu ger y gyffordd rhwng Ffordd Grosvenor a Ffordd Rhosddu. Heddiw mae'r adeilad yn rhan o ardal gadwraeth Ffordd Grosvenor. Abbotsfield, neu Abbotsfield Priory, oedd enw gwreiddiol y tŷ. [1]

Yn 1895, daeth y tŷ'n gartref i'r meddyg lleol John Arthur Eyton-Jones. Ar ôl cyfnod fel swyddfa cyngor, yn y saithdegau gwerthwyd y tŷ, pan ddaeth yn westy o'r enw Abbotsfield Priory Hotel. Yn 2010, ar ôl cyfnod fel bwyty Eidalaidd, cafodd y tŷ ei adnewyddu’n llawn. Heddiw, gwesty yw'r tŷ unwaith eto. The Lemon Tree yw ei enw presennol. [3]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Adeilad Neo-gothig deulawr o dywodfaen yw Abbotsfield. Er gwaethaf presenoldeb estyniad modern, mae'r tŷ wedi cadw ei ymddangosiad gwreiddiol i raddau helaeth. Tu mewn i'r tŷ hefyd, mae nifer o nodweddion gwreiddiol, yn enwedig yn y cyntedd ac ar y grisiau. [4] 

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Abbotsfield Priory Hotel, Wrexham". Wrexham-history.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-02-05. Cyrchwyd 7 Mawrth 2023.
  2. "Cynllun Rheoli ac Asesu Ardal Gadwraeth Ffordd Grosvenor" (PDF). wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 7 Mawrth 2023.
  3. "About - The Lemon Tree". thelemontree.co.uk. Cyrchwyd 7 Mawrth 2023.
  4. "Abbotsfield Priory Hotel, Rhosddu, Wrexham". Britishlistedbuildings.co.uk. Cyrchwyd 7 Mawrth 2023.