Neidio i'r cynnwys

12 Years a Slave (ffilm)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o 12 Years a Slave)
12 Years a Slave
Enghraifft o'r canlynolffilm Edit this on Wikidata
Lliw/iaulliw Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi30 Awst 2013 Edit this on Wikidata
Genreffilm ddrama, ffilm am berson, ffilm yn seiliedig ar lyfr Edit this on Wikidata
CymeriadauSolomon Northup, Edwin Epps, Patsey, William Prince Ford, Samuel Bass, James H. Birch Edit this on Wikidata
Prif bwnccaethwasiaeth yn Unol Daleithiau America, hiliaeth Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithLouisiana, Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Hyd133 munud Edit this on Wikidata
CyfarwyddwrSteve McQueen Edit this on Wikidata
Cynhyrchydd/wyrBrad Pitt, Dede Gardner, Bill Pohlad, Arnon Milchan, Jeremy Kleiner, Anthony Katagas, Steve McQueen Edit this on Wikidata
Cwmni cynhyrchuPlan B Entertainment, Film4 Productions, Regency Enterprises, Summit Entertainment Edit this on Wikidata
CyfansoddwrHans Zimmer Edit this on Wikidata
DosbarthyddInterCom, ProVideo, Netflix Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolSaesneg Edit this on Wikidata
SinematograffyddSean Bobbitt Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.searchlightpictures.com/12yearsaslave/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ffilm Brydeinig-Americanaidd hanesyddol, sy'n addasiad o'r cofiant o'r un enw gan Solomon Northup, ydy 12 Years a Slave. Mae'r ffilm yma'n cynnwys trais rhywiol.

Rhyddhawyd y ffilm yn 2013 ac mae'n olrhain hanes negro rhydd o Efrog Newydd a herwgipiwyd yn Washington, D.C. yn 1841 ac a werthwyd i gaethwasiaeth. Gweithiodd ar blanhigfa yn nhalaith Louisiana am ddeuddeg mlynedd cyn iddo gael ei ryddhau. Roedd yr argraffiad ysgholheigiadd cyntaf o gofiant Northrup, a gyd-olygwyd gan Sue Eakin a Joseph Logsdon yn 1968, yn olrhain yr hanes gan ddod i'r casgliad fod yr hanes yn hanesddyol gywir.

Dyma'r drydedd ffilm i gael ei chyfarwyddo gan Steve McQueen ac a ysgrifennwyd gan John Ridley. Chwaraeodd Chiwetel Ejiofor y brif rôl sef Northup. Chwaraeodd Michael Fassbender, Benedict Cumberbatch, Paul Dano, Paul Giamatti, Lupita Nyong'o, Sarah Paulson, Brad Pitt a Alfre Woodard rolau cefnogol hefyd. Ffilmiwyd y rhan fwyaf o'r ffilm yn New Orleans, Louisiana, o 27 Mehefin tan 13 Awst, 2012, ar gyllideb o $20 miliwn. Defnyddiwyd pedwar lleoliad hanesyddol sef planhigfeydd antebellum: Felicity, Magnolia, Bocage, a Destrehan. O'r pedwar, Magnolia sydd agosaf i'r blanhigfa lle daliwyd Northup mewn gwirionedd.

Derbyniodd 12 Years a Slave adolygiadau clodwiw pan gafodd ei ryddhau yn 2013, a chafodd ei enwi'n ffilm y flwyddyn gan nifer o allfeydd cyfryngol. Yn 2014, derbyniodd y ffilm Wobr Golden Globe, a chafodd ei enwebi am naw o Gwobrau'r Acaemi yn cynnwys y Ffilm Orau, y Cyfarwyddwr Gorau i McQueen, yr Actor Gorau i Ejiofor, yr Actor Cefnogol Gorau i Fassbender, a'r Actores Gefnogol Orau i Nyong'o. Cafodd y ffilm ei chydnabod gan British Academy of Film and Television Arts (BAFTA) gyda gwobr y Ffilm Orau yn Chwefror 2014, gyda Ejiofor yn ennill y BAFTA am yr Actor Gorau.

Ymhlith y gwobrau a enillwyd y mae Gwobr yr Academi am Ffilm Orau, Dallas-Fort Worth Film Critics Association Award for Best Film.

Alfre Woodard ar noson agoriadol 12 Years a Slave

Cyfarwyddwr

[golygu | golygu cod]

Ganwyd y cyfarwyddwr ffilm Steve McQueen ar 9 Hydref 1969 yn Llundain. Roedd yn fwyaf cynhyrchiol yn 1993 ond ni ellir dweud fod y gwaith wedi cyrraedd enwogrwydd byd-eang. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Gelf Chelsea.


Ymhlith y gwobrau mae wedi'u hennill y mae:

  • Gwobr Turner[1]
  • CBE
  • Gwobr yr Academi am Ffilm Orau[2]
  • Marchog Faglor

Derbyniad

[golygu | golygu cod]

Rhoddwyd y marciau canlynol mewn adolygiadau o'r ffilm:

  • 8.9/10[3] (Rotten Tomatoes)
  • 95% (Rotten Tomatoes)
  • 96/100

. Ymhlith y gwobrau a enillwyd y mae Gwobr yr Academi am Ffilm Orau, Dallas-Fort Worth Film Critics Association Award for Best Film. Mae'r incwm a dderbyniwyd am y ffilm hon dros 187,733,202 $ (UDA).

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. https://www.tate.org.uk/whats-on/tate-britain/exhibition/turner-prize-1999. dyddiad cyrchiad: 24 Chwefror 2022.
  2. https://www.oscars.org/oscars/ceremonies/2014. dyddiad cyrchiad: 24 Chwefror 2022.
  3. "12 Years a Slave". Rotten Tomatoes. Cyrchwyd 7 Hydref 2021.