Neidio i'r cynnwys

Rhys Thomas (meddyg): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Newydd
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 04:58, 25 Mawrth 2020

Rhys Thomas
GanwydSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethanesthetydd, dyfeisiwr, gwleidydd Edit this on Wikidata

Anesthetydd ymgynghorol yn Ysbyty Glangwili, Sir Gaerfyrddin a dyfeisydd yw'r Dr Rhys Thomas a ddaeth i'r amlwg ym Mawrth 2020, yn ystod wythnosau cynta'r y Gofid Mawr yng Nghymru.[1]

Ar gais Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, dyfeisiodd Rhys Thomas 'Wyntedydd Argyfwng COVID' (Covid Emergency Ventilator) dros gyfnod o dridiau. Defnyddiwyd y gwyntedydd cyntaf ar glaf yn Llanelli ar 21 Mawrth, a gwellodd y claf, gan adael yr ysbyty ychydig yn ddiweddarach. Yn wahanol i'r gwyntedyddion arferol, nid yw'n angenrheidiol i nyrs fod o fewn cyrraedd, neu olwg y claf, ac mae'r peiriant yn glanhau'r aer yn yr ystafell ar ei liwt ei hun, gan ffiltro gronynnau mân fel firysau ohono ac yn helpu'r claf i anadlu.

Trodd Adam Preis at gwmni bychan, teuluol o Rydaman, sef Maurice Clarke of CR Clarke & Co, gan ofyn iddynt gynhyrchu'r dyfais newydd, a chytunodd y cwmni; o fewn dim roedd Adam Price wedi cael sêl bendith Llywodraeth Cymru i fynd ati i'w creu.[2]

Cyn hynny, roedd gan Gymru gyfanswm o 100 o wyntedyddion; ar 25 Mawrth, credwyd y gellid cynhyrchu 100 y dydd o'r gwyntedyddion newydd, a hynny yng Nghymru.

Yn ôl Dr Thomas, "Wneith y gwyntedydd argyfwng fyth ddisodli'r gwyntedyddion presennol yn yr unedau gofal dwys; mae fy nyfais i'n arbenigol, ac yn targedu COVID-19, ac yn cael ei gyflwyno i'r claf cyn iddo gyrraedd yr uned gofal dwys. Mae hefyd yn rhyddhau'r nysrus i wneud gwaith arall, yn hytrach na threulio eu hamser yn cadw golwg ar y peiriant."[3]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. itv.com; adalwyd 25 Mawrth 2020
  2. bmmagazine.co.uk; adalwyd 25 Mawrth 2020.
  3. www.walesonline.co.uk; adalwyd 25 Mawrth 2020.