Zeno (ymerawdwr)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Delw Zeno ar ddarn arian o'i ail deyrnasiad

Ymerawdwr Bysantaidd, neu Ymerawdwr Rhufeinig yn y dwyrain, o 474 hyd 475 ac eto o 476 hyd 491 oedd Flavius Zeno, enw gwreiddiol Tarasicodissa neu Trascalissaeus (c. 4259 Ebrill 491).

Ganed ef fel Tarasicodissa, Isawriad o arfordir deheuol Anatolia. Daeth i amlyfrwydd fel milwr, ac enillodd ffafr yr ymerawdwr Leo I pan ddatguddiodd fradwriaeth Ardabur, mab y magister militum Aspar. Bu bron iddo gael ei lofruddio ar orchymyn Aspar pan ar ymgyrch yn Thrace. Wedi iddo ddychwelyd i Gaergystennin, lladdwyd Aspar ar orchymyn Leo, a daeth Tarasicodissa yn magister militum yn ei le. Newidiodd ei enw i Zeno, a phriododd Ariadne, merch yr ymerawdwr, yn 468. Mab ieuanc Zeno ac Ariadne, Leo II, a etifeddodd yr orsedd ar farwolaeth Leo I yn 474, a gwnaed Zeno yn gyd-ymerawdwr. Pan fu farw Leo II yn ddiweddarach y flwyddyn honno, daeth Zeno yn ymerawdwr ar ei ben ei hun.

Nid oedd yn boblogaidd gyda'r bobl, oherwydd mai tramorwr a ystyrid yn farbariad ydoedd. Bu gwrthryfel yn ei erbyn, a'i gorfododd i ffoi i Antioch, a daeth Basiliscus yn ymerawdwr yn 475. Fodd bynnag, aeth Basiliscus yn amhoblogaidd yn fuan, a gallodd Zeno ddychwelyd y flwyddyn wedyn, ac alltudio Basiliscus i Phrygia.

Yr un flwyddyn, diorseddwyd yr ymerawdwr Rhufeinig yn y gorllewin, Romulus Augustus, gan Odoacer, pennaeth yr Heruli. Llwyddodd i drefnu cytundeb heddwch a Geiseric, a roddodd ddiwedd ar ymosodiadau y Fandaliaid. Bu raid iddo dalu i arweinwyr yr Ostrogothiaid , Theodoric Fawr a Theodoric Strabo, i'w cadw rhag ymosod ar Gaergystennin. Yn ddiweddarach, daeth Theodoric yn frenin yr holl Ostrogothiaid wedi marwolaeth Theodoric Strabo, ond cafodd Zeno wared ohono o'r dwyrain trwy ei berswadio i ymosod ar Odoacer yn yr Eidal.

Bu farw Zeno ar 9 Ebrill, a dewisodd ei weddw, Ariadne, Anastasius I fel ei olynydd.