Ysgol Tan-yr-Eos

Oddi ar Wicipedia
Ysgol Tan-yr-Eos
Sefydlwyd 2006
Caewyd 2013
Math Cynradd, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Mr Rh G Harries
Lleoliad Virgil Street, Grangetown, Caerdydd, Cymru, CF11 8TF
AALl Cyngor Caerdydd
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 4–11

Ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Cymraeg yn ardal Grangetown, Caerdydd oedd Ysgol Tan-yr-Eos. Y prifathro oedd Mr Rhys Harries,[1] sef prifathro Ysgol Gymraeg Treganna. Câi'r ddwy ysgol eu rhedeg ar y cyd.

Sefydlwyd Ysgol Tan-yr-Eos yn 2006, ar safle ysgol Saesneg Ysgol Gynradd Parc Ninian; erbyn 2009, roedd yr ysgol Gymraeg yn defnyddio pedwar dosbarth dros dro ar y safle.[2] Erbyn 2011, roedd y nifer hwnnw wedi cynyddu i chwech.[3]

Yn 2012 cafodd yr ysgol ei hadolygu gan Estyn. Nodwyd bod ei pherfformiad presennol a'i rhagolygon gwella yn 'dda'.[4].

Caewyd yr ysgol yn 2013, pan oedd y disgyblion hynaf ym mlwyddyn 5. Trosglwyddwyd y plant i safle newydd Ysgol Treganna. Bellach nid oes darpariaeth Gymraeg yn Grangetown.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.