Ysgol Gymraeg Treganna
| Ysgol Gymraeg Treganna | |
|---|---|
![]() |
|
| Sefydlwyd | 1987 |
| Math | Cynradd, y Wladwriaeth |
| Cyfrwng iaith | Cymraeg |
| Pennaeth | Mr Rhys G. Harries |
| Lleoliad | Radnor Road, Treganna, Caerdydd, Cymru, CF5 1RB |
| AALl | Cyngor Caerdydd |
| Disgyblion | 208[1] (yn 2012/13) |
| Rhyw | Cyd-addysgol |
| Oedrannau | 4–11 |
| Gwefan | http://ysgoltreganna.cardiff.sch.uk |
Ysgol gynradd Gymraeg yn ardal Treganna, Caerdydd yw Ysgol Gymraeg Treganna. Y prifathro presennol yw Mr Rhys G. Harries.[2]
Sefydlwyd yr ysgol ym 1987, ac ar hyn o bryd mae'n rhannu safle ag ysgol gynradd Saesneg Radnor Road.[3] Mae dalgylch yr ysgol (o 2013 ymlaen) yn ymestyn o ardal Lansdowne Gardens yn y de i gaeau Llandaf a Heol Pencisely yn y gogledd, ac o Severn Road a Severn Grove yn y dwyrain i Heol Elái a Rhodfa'r Gorllewin yn y gorllewin. Daw'r rhan fwyaf o'r disgyblion o'r ardal hon.[3] Fe aiff y disgyblion ymlaen i Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr ym mlwyddyn 7 yn y system addysg.
Yn 2012, deuai 59% o'r disgyblion o gartrefi a oedd â'r Saesneg yn brif iaith, ond siaradai 80% y Gymraeg yn iaith gyntaf neu i safon gyfwerth.[1] Yn 2006, deuai 70% o'r disgyblion o gartrefi a oedd â'r Saesneg yn brif iaith.[3]. Yn 2012 roedd tua 15% o’r disgyblion yn hanu o gefndir ethnig.[1]
Disgrifiwyd yr ysgol yn adroddiad Estyn 2006 fel "ysgol dda gyda nifer o nodweddion rhagorol".[3]. Yn 2012, adroddwyd bod perfformiad presennol yr ysgol a'i rhagolygon gwella yn "dda".[1]
Gan fod cymaint o alw am addysg Gymraeg yn yr ardal, mae'r niferoedd sy'n mynychu'r ysgol yn uwch na'r capasiti arferol ers nifer o flynyddoedd. Y capasiti arferol yw 169, ond yn 2012 roedd 208 o blant yn yr ysgol (gydag un dosbarth mewn caban, ac un dosbarth wedi ei leoli ar lawr uchaf yr ysgol Saesneg sy’n rhannu’r safle).[1] Yn 2006, 170 o blant a fynychai'r ysgol.[3]
Ym mis Medi 2013 bydd yr ysgol yn ailagor ar safle newydd ar Ffordd Sanatoriwm.[4]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Adroddiad ar Ysgol Gymraeg Treganna, Ionawr 2012. ESTYN (24 Mawrth 2012).
- ↑ School Details: Ysgol Gymraeg Treganna. Cyngor Caerdydd.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996: Ysgol Gymraeg Treganna, 3 Ebrill 2006. ESTYN (24 Mawrth 2012).
- ↑ 'Cytuno i symud Ysgol Treganna i adeilad newydd', Newyddion BBC, 7 Ebrill 2011.
