Ysgol-lys Breidler

Oddi ar Wicipedia
Ysgol-lys Breidler
Nardia breidleri
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Jungermanniaceae
Genws: Nardia
Rhywogaeth: N. breidleri
Enw deuenwol
Nardia breidleri

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Ysgol-lys breidler (enw gwyddonol: Nardia breidleri; enw Saesneg: book flapwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Nid yw’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru, Lloegr ac Iwerddon ond mae'n eitha cyffredin yn yr Alban.

Planhigyn bach, sy'n ffurfio matiau tenau, sydd wedi'u herydu'n aml, ond yn aml yn ymgripiol trwy neu dros lysiau'r afu eraill. Fel arfer mae o liw tywyll, yn amrywio o borffor-frown i liw sydd bron yn ddu.

Mae'r egin hyd at 0.5 mm o led ac 1 cm o hyd, ond fel arfer yn fyrrach na hyn, gyda dail yn codi ar i fyny o'r coesyn. Mae'r dail yn llai na 0.5 mm o led a hyd.[1]

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Ysgol-lys Breidler gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. rbg-web2.rbge.org.uk; adalwyd 25 Hydref 2019.
  2. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.