Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Enghraifft o'r canlynol | ysbyty |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1846, 1847 |
Gweithredwr | Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda |
Rhiant sefydliad | Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda |
Rhanbarth | Caerfyrddin |
Gwefan | http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/page/42915 |
Mae Ysbyty Cyffredinol Glangwili (Saesneg: Glangwili General Hospital), a elwid gynt yn Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru, yn ysbyty cyffredinol yng Nghaerfyrddin. Mae'n cael ei reoli gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn derfynnol, Llywodraeth Cymru.
Hanes[golygu | golygu cod]
Agorodd yr ysbyty fel Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru ym 1949.[1] Newidiodd ei enw i Ysbyty Cyffredinol Glangwili yn dilyn pleidlais yn 2010.[2] Roedd yn rhan o Ymddiriedolaeth GIG Sir Gaerfyrddin hyd nes i'r corff hwnnw ddod i ben a chael ei lyncu i greu Ymddiriedolaeth Hywel Dda.
Datblygiadau[golygu | golygu cod]
Ym mis Medi 2014, agorwyd uned dialysis arennol newydd sy'n cael ei redeg gan Fresenius Medical Care Renal Services Ltd yn yr ysbyty, gyda chontract i'w rhedeg am o leiaf 7 mlynedd.[3] Fel rhan o ad-drefnu gwasanaethau acíwt yng Nghymru, bydd gwasanaeth pediatrig cleifion mewnol 24/7 yn Glangwili o fis Hydref 2014.[4]
Buddsoddwyd £25m mewn uned famolaeth a genedigaeth newydd yn yr ysbyty [5] wedi i adroddiad yn 2018 ddarganfod nad oedd yr uned ar y pryd "ddim yn ffit i'w bwrpas". Ers y buddsoddiad mae'r ddarpariaet wedi "gwella'n sylweddol".[6]
Yn 2022 lansiwyd Canolfan Ymchwil Glinigol yn yr Ysbyty. Roedd y buddsoddiad o £250,000 wedi arwain at ddatblygu ystafelloedd clinigol pwrpasol i drin a monitro cleifion a labordy amlddefnydd gyda chyfleusterau o’r radd flaenaf i alluogi prosesu samplau yn annibynnol o adrannau prysur eraill.[7]
Yn 2022 adroddwyd ar gynlluniau i adeiladu ysbyty fawr newydd yn ardal San Clêr a Arberth erbyn 2029 i wasanaethau gorllewin Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Byddai hyn yn effeithio ar waith Ysbyty Glangwili.[8]
Gwasanaethau eraill[golygu | golygu cod]
Bu Radio Glangwili yn rhan bwysig o wead yr ysbyty a hefyd Llyfrau Llafar Cymru a ddatblygwyd gyda chydweithrediad gwirfoddolwyr yr orsaf radio i ddatblygu llyfrau llafar i bobl ddall a gwan eu golwg.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "West Wales General Hospital, Carmarthen". Coflein. Cyrchwyd 28 Ebrill 2023.
- ↑ "Online vote on West Wales General Hospital name change". BBC. 29 June 2010. Cyrchwyd 11 February 2019.
- ↑ "Date finally set for opening of Withybush Hospital's multi-million pound dialysis unit". Milford & West Wales Mercury. 8 September 2014. Cyrchwyd 27 September 2014.
- ↑ "October 20 date set for removal of 24hr paediatrics from Withybush Hospital". Western Telegraph. 20 August 2014. Cyrchwyd 27 September 2014.
- ↑ "Cyhoeddi £25m i ofal newydd-anedig Ysbyty Glangwili". BBC CymruFyw. 12 Ebrill 2018.
- ↑ "Glangwili Hospital: Maternity ward significantly improved". BBC Wales News. 2 Mawrth 2023.
- ↑ "Lansio Canolfan Ymchwil Glinigol Ysbyty Glangwili". Gwefan Bwrdd Iechyd Hywel Dda. 17 Mawrth 2022.
- ↑ "Plans for a new hospital for west Wales by 2029 but what do the proposals mean?". ITV Cymru. 27 Ionawr 2022.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]
- Ysbyty Cyffrednnol Glangwili ar wefan Bwrdd Iechyd Hywel Dda
- Fideo o adeilad ac adrannau Ysbyty Glangwili ar sianel Youtube Bwrdd Iechyd Hywel Dda