Radio Glangwili
Gorsaf Radio Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru yw Radio Glangwili. Rhedir yr orsaf gan wirfoddolwyr lleol. Mae'r orsaf yn darlledu ar 87.7FM o gwmpas Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Yn 1971, fe arbrofodd tîm o aelodau Urdd Gobaith Cymru, a arweinwyd gan Lywydd presennol Radio Glangwili, Sulwyn Thomas yn defnyddio trolîau ffôn yr ysbyty a milltiroedd o geblau yn rhedeg i mewn ac allan o'r wardiau, er mwyn cael cyfweliadau nôl i'r stiwdio ac yna allan yn fyw i ochrau gweliau'r cleifion. Dilynwyd hyn gan gyfres o raglenni wedi'u tapio a pherswadiwyd pawb fod angen trefniant mwy parhaol ar Radio Glangwili. Fe wnaeth yr ysbyty a chyfeillion yr ysbyty gefnogi'r syniad ac fe wnaeth y gymdeithas roi £75 er mwyn prynu offer newydd.
Ar Ddydd Nadolig 1972, aeth Radio Glangwili yn fyw ar yr awyr gyda'i darllediad swyddogol cyntaf i gleifion a staff Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru. Darlledu o ystafell, a adnabuwyd fel "y cwpwrdd ysgubellau" a leolwyd yn agos i ward Teifi. Roedd y rhaglen gyntaf 2 awr yma yn cynnwys cyfweliadau a cheisiadau gyda chleifion trwy'r ysbyty.
Cynnwys |
Dathliadau 40 mlynedd [golygu]
Dathlodd Radio Glangwili 40 mlynedd o ddarlledu ar Ddydd Nadolig 2012. Fel rhan o'r dathliadau, bu'r orsaf yn darlledu rhaglenni allanol o dref Caerfyrddin. Dyma'r tro cyntaf erioed i'r orsaf ddarlledu ar y we hefyd.
Bydd y dathliadau yn parhau pan fydd yr orsaf yn ceisio torri record eu hunain ym mis Ebrill 2013 ar gyfer y darllediad hiraf di-dor cyfrwng Cymraeg erioed. Wyn Jones sy'n dal y record yma ar hyn o bryd - Record o 20 awr ac fe fydd y rhaglen ym mis Ebrill o dan gofal ei fab - Alun Jones. Y targed ydy darlledu am 24 awr gyfan.
Gwirfoddolwyr (ddim yn cynnwys darlledwyr) [golygu]
- Sulwyn Thomas- Llywydd
- Arwel Fowler- Cadeirydd
- Ian Williams- Trysorydd
- Steve Crayford- Is Gadeirydd
- Wyn Jones- Ymgynghorydd Technegol
- Gwion Ramage- Ysgrifennydd Clwb 100
- Alun Jones- Cynllunydd gwefan
Rhaglenni [golygu]
Mae Radio Glangwili yn darlledu rhaglenni byw yn achlysurol bob diwrnod. Pan na fydd rhaglen fyw, mae'r orsaf yn darlledu o system 24 awr.