Yr Ymerodraeth Alaidd

Oddi ar Wicipedia
Yr Ymerodraeth Alaidd (gwyrdd) yn 271

Yr Ymerodraeth Alaidd (Lladin: Imperium Galliarum) yw'r enw modern ar y rhan a dorrodd yn rhydd o'r Ymerodraeth Rufeinig rhwng 260 - 274. Roedd hyn yn rhan o ddigwyddiadau Argyfwng Imperialaidd y Drydedd Ganrif.

Sefydlwyd yr ymerodraeth gan Postumus yn 260, yn dilyn ymosodiadau gan y barbariaid a diffyg cymorth o Rufain. Ar ei huchafbwynt, roedd yn cynnwys Germania, Gâl, Prydain, a Hispania. Llofruddiwyd Postumus yn 268, a chollodd yr ymerodraeth lawer o'i thiriogaethau, ond parhaodd hyd 274. Yn y flwyddyn honno, adfeddiannwyd hi gan yr ymerawdr Aurelian wedi Brwydr Châlons.