Hispania

Oddi ar Wicipedia
Hispania
Mathardal hanesyddol, lle, historiographical concept, cyfnod o hanes Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladRhufain hynafol, Sbaen, Portiwgal Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau40.21°N 4.35°W Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegoly cynfyd clasurol Edit this on Wikidata
Map

Hispania oedd enw'r Rhufeiniaid ar Penrhyn Iberia, yn cynnwys rhan o dde Ffrainc yn ogystal â Sbaen a Portiwgal.

Yng nghyfnod Gweriniaeth Rhufain, rhennid Hispania yn ddwy dalaith: Hispania Citerior a Hispania Ulterior. Dan yr Ymerodraeth Rufeinig, rhannwyd Hispania Ulterior yn ddwy dalaith newydd, Baetica a Lusitania, ac ail-enwyd Hispania Citerior yn Hispania Tarraconensis. Yn ddiweddarch, daeth rhan orllewinol Tarraconensis yn dalaith Hispania Nova, a ail-enwyd wedyn yn Callaecia neu Gallaecia. Dan Diocletian, daeth rhan deheuol Tarraconensis yn dalaith Carthaginiensis.

Theatr Rufeinig Mérida