Yr Undeb Rhyngwladol

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Delwedd:L'Internationale.jpg
L'Internationale a ysgrifennwyd ym 1870 gan Eugène Pottier (1816–1887)

Yr Undeb Rhyngwladol neu Yr Internationale (L'Internationale yn Ffrangeg) yw'r gân sosialaidd enwocaf, ac un o ganeuon enwocaf y byd. Ysgrifennodd Eugène Pottier (18161887) eiriau'r anthem ym 1871, ac ym 1888 cyfansoddodd Pierre Degeyter (18481932) y dôn.[1] (Y dôn wreiddiol oedd La Marseillaise.) Daw'r enw o'r Undeb Rhyngwladol Cyntaf, cyfundrefn sosialaidd rhyngwladol. Mae hi'n cael ei chanu'n draddodiadol gyda'r llaw dde yn ddwrn caeëdig.

Gan fod y gân yn deillio o gyfnod cyn rhaniad ffurfiol sosialaeth i'w aml-dueddiadau, caiff ei ganu gan bleidiau cymdeithasol democrataidd (serch ei eiriau chwyldroadol), gomiwnyddion ac anarchwyr 'oll.

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. The Guardian, Awstralia. "The International". pp. nawfed paragraff. Archived from the original on 2002-11-23. http://web.archive.org/20021123084158/www.geocities.com/capitolhill/7078/inter.txt.