Cymdeithas Ryngwladol y Gweithwyr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Symbol defnyddiwyd cyntaf gan Gyngor Ffederal Sbain Cymdeithas Rhyngwladol y Gweithwyr.

Cyfundrefn ryngwladol o sawl grŵp asgell chwith sosialaidd, comiwnyddol, ac anarchaidd oedd Cymdeithas Ryngwladol y Gweithwyr (1864-1876) neu'r Undeb Rhyngwladol Cyntaf. Ei phwrpas, yn ôl y rheolau cyhoeddwyd yn Nhachwedd 1864, oedd i sicrhau cyfathrebiad a chydweithrediad rhwng cyfundrefnau gweithwyr yng ngwledydd gwahanol, at amcan hollol ryddfreiniad y dosbarth gweithiol.[1]

Hanes[golygu]

Cyfarfod o radicaliaid amrywiol yn Neuadd Saint Martin, Llundain, ar y 28ain o Fedi, 1864 oedd genedigaeth y gyfundren. Er i'r cyfarfod cynnwys radicaliaid amrywiol y gyfnod, o genedlaetholwyr Pwylaidd a Gwyddelig a chefnogwyr Mazzini i sosialwyr Prydeinig ac Almaeneg, erbyn Tachwedd 1864 roedd yn gyfundrefn bur asgell chwith. Ond nid oedd yn athrawiaethol unffurf chwaith, gan adlewyrchu amrywiaeth tueddiadau sosialaidd y cyfnod: Siartwyr, gydweithredwyr yn dilyn traddodiadau y Cymro Robert Owen a Pierre-Joseph Proudhon o Ffrainc, ddilynwyr Louis Auguste Blanqui, nifer o sosialwyr Almaeneg a syniadau tebyg i Karl Marx, ac anarchwyr megis Mikhail Bakunin; daeth cynrychiolwyr o wledydd Ewrop a'r Unol Daleithiau. Aeth nifer o'r sosialwyr Almaeneg ymlaen i fod yn aelodau o Blaid Sosialaidd yr Almaen yn 1872 - roedd yr undeb yn cynnwys diwygwyr a chwyldroadwyr ill ddau. Roedd Karl Marx ei hun yn aelod allweddol, gan ysgrifennu'r rheolau gyntaf crybwyllwyd uchod[2] ac eistedd ar Gyngor Cyffredinol y gyfundrefn hyd at 1872. Cynhaliwyd y cyngres cyntaf yn Geneva yn 1866.

Yn ystod Cyngres y Hague yn 1872, holltwyd carfanau y gyfundrefn mewn dau. Diarddelwyd Bakunin a sosialwyr gwrth-wladwriaethol tebyg o'r gyfundrefn gan Marx a'i ddilynwyr. Dyma oedd canlyniad datblygiadau yn syniadau sosialaeth wedi Comiwn Paris 1871. I Marx, methodd y Comiwn oherwydd ei ddiffyg canoli a thrwy wastraff amser ar ddulliau democrataidd yn ystod argyfwng, ond i Bakunin ei lwyddiant oedd yr union wrthodiad hyn o'r wladwriaeth canolig. Daeth Bakunin i ddatgan syniadau Marx yn awdurdodol ac yn 1871 wnaeth cynhadledd yn Llundain o'r Cyngor Cyffredinol (a bennwyd gan Marx) datgan yr angen i'r dosbarth gweithiol ffurfio plaid gwleidyddol.[3] Yn ogystal, roedd anghytundebau dros strwythur y gyfundrefn (rhai megis Bakunin yn ffafrio un ffederal) a lleoliad y Cyngor Cyffredinol (Marx a'i ddilynwyr yn cefnogi ei adleoliad i Efrog Newydd). Roedd cystadleuaeth personol eisoes wedi bydoli rhwng y ddau ffigwr blaengar hyn.[4] I nifer, diffinia'r digwyddiad dechreuad y rhwyg parhaol rhwng Marcsiaeth ac anarchiaeth.

Yn dilyn cyngres 1872, datganodd y garfan o anarchwyr y penderfyniad yn null gan sefydlu cyfundrefn newydd ei hun, Undeb Rhyngwladol Anarchwyr St. Imier wnaeth parhau tan 1877, yn St. Imier, y Swistir. Symudodd y gyfundrefn wreiddiol i Efrog Newydd, ond nid oedd ganddo niferoedd na fri ei dyddiau cynt, gan ddod i ben yn 1876. Ers hyn, sefydlwyd nifer o undebau rhyngwladol Marcsaidd ac anarchaidd gan weld eu hun yn olynwyr i'r gyfundrefn wreiddiol.

O'r gyfundrefn daw y gân sosialaidd enwog Yr Undeb Rhyngwladol.

Cyfeiriadau[golygu]