Mikhail Bakunin
Oddi ar Wicipedia
Chwyldroadwr, anarchydd ac athronydd o Rwsia oedd Mikhail Bakunin (30 Mai 1814 - 1 Gorffennaf 1876). Dechreuodd yn genedlaetholwr cyn gwrdd â chyfoeswyr megis Karl Marx a'r anarchydd Pierre-Joseph Pruodhon ym Mharis yn yr 1840au. Datblygodd ei syniadau gan ddod yn anarchydd cyfunol - erbyn heddiw ystyrir yn dad i'r athrawiaeth gan nifer.[1]
Daeth yn un o brif gynrychiolwyr yr anarchwyr yn y Gymdeithas Ryngwladol Gyntaf tan ei ddiarddeliad gan Karl Marx a'i ddilynwyr yn 1872. Diffiniodd y rhwyg y wahaniaeth rhwng sosialaeth "wladwriaethol" Marcsiaeth a sosialaeth "gwrth-wladwriaethol" anarchiaeth, athrawiaethau oedd cynt yn weddol gydlynol.