Yoga

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cerflun o Shiva yn perfformio myfyrdod Yogaidd yn yr ymddaliad Padmasana.

Disgyblaethau traddodial meddyliol a chorfforol sy'n tarddu o India yw Yoga (Sanskrit, Pāli: योग yóga).[1][2] Mae Yoga hefyd yn un o chwe ysgol uniongred (āstika) athroniaeth Hindŵ, ac at y gôl y mae'r ygol hwnnw yn anelu ati.[3][4] Mae hefyd yn cyfeirio at y swm o'r holl weithgareddau meddyliol, llafar a chorfforol yn Jainiaeth.

Mae prif ganghennau yoga yn athroniaeth Hindŵ yn cynnwys Raja Yoga, Karma Yoga, Jnana Yoga, Bhakti Yoga, a Hatha Yoga.[5][6][7] Caiff Raja Yoga ei grynhoi yn y Yoga Sutras of Patanjali, ac adnabyddir yn syml fel yoga yng nghyd-destun athroniaeth Hindŵ, ac mae'n ran o draddodiad Samkhya[3] Mae nifer o destunau Hindŵ yn trafod agwedau o yoga, gan gynnwys Upanishads, y Bhagavad Gita, y Hatha Yoga Pradipika, y Shiva Samhita ac amryw o Tantrai.

Mae gan y gair Sanskrit yoga sawl ystyr,[8] ac mae'n tarddu o'r gwraidd Sanskrit yuj, sy'n golygu "i reoli", "i ieuo" neu "i uno".[9] Mae cyfeiithiadau'n cynnwyr "ymuno", "cyfuno", "undeb", "cysylltair", a "modd".[8] Yn gyffredinol tu allan i India, mae'r term yoga yn cael ei gysylltu â Hatha Yoga a'i asanas (ymddaliadau) neu fel ffurf o ymarfer corff. Gelwir un sy'n ymarfer yoga neun dilyn athroniaeth yoga yn Yogi.[10]

Ffynonellau[golygu]

  1. Stuart Ray Sarbacker, Samadhi: The Numinous and Cessative in Indo-Tibetan Yoga. SUNY Press, 2005, tud. 1-2
  2. Tattvarthasutra [6.1], gweler Manu Doshi (2007) Cyfieithiad o'r Tattvarthasutra, Ahmedabad: Shrut Ratnakar tud. 102
  3. 3.0 3.1 Jacobsen, Knut A. (gol.); Larson, Gerald James (gol.) (2005). Theory And Practice of Yoga: Essays in Honour of Gerald James Larson, Brill Academic Publishers. ISBN 90-04-14757-8. (Studies in the History of Religions, 110)
  4. Diffiniad Monier-Williams o yoga."
  5. Pandit Usharbudh Arya (1985). The philosophy of hatha yoga. Himalayan Institute Press; 2il argraffiad
  6. Sri Swami Rama (2008) The royal path: Practical lessons on yoga. Himalayan Institute Press; Argraffiad newydd
  7. Swami Prabhavananda (cyfieithydd), Christopher Isherwood (cyfieithydd), Patanjali (awdur). (1996). Vedanta Press; How to know god: The yoga aphorisms of Patanjali. Argraffiad newydd
  8. 8.0 8.1 Apte, Vaman Shivram (1965). The Practical Sanskrit Dictionary. Delhi: Motilal Banarsidass Publishers. ISBN 81-208-0567-4
  9. Gavin Flood (1996)
  10. American Heritage Dictionary: "Yogi, One who practices yoga." Websters: "Yogi, A follower of the yoga philosophy; an ascetic."
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: