Myfyrdod Bwdhaidd

Oddi ar Wicipedia
Mynach Bwdhaidd yn myfyrio yng Ngwlad Tai

Modd o fyfyrdod crefyddol a ddefnyddir ym Mwdhaeth i geisio cyrraedd rhyddid ysbrydol nirfana yw myfyrdod Bwdhaidd. Gelwir y gwrthrych sylw yn kammatthana.

Ceir pedwar cam (Sansgrit: dhyana, Pali: jhana) sy'n nodi'r daith o sylw'r unigolyn o'r byd synhwyraidd allanol i'r cyflwr o fewndroad:

  1. Datgysylltiad o'r byd allanol ac ymwybyddiaeth o lawenydd a thawelwch meddwl.
  2. Astudrwydd, gan ffrwyno ymresymiad ac archwiliad.
  3. Cael gwared â llawenydd, gan adael meddwl tawel.
  4. Cael gwared â'r meddwl tawel hefyd, gan hebrwng cyflwr o wastadrwydd meddwl ac hunanfeddiant pur.

Dilynir y pedwar cam hyn gan bedwar ymarfer ysbrydol, y samapatti:

  1. Ymwybyddiaeth o anfeidroldeb gofod.
  2. Ymwybyddiaeth o anfeidroldeb gwybyddiaeth.
  3. Myfyrio ar afrealrwydd pethau (diddymder).
  4. Ymwybyddiaeth o afrealrwydd fel gwrthrych meddwl.[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Buddhist meditation. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Tachwedd 2014.
Eginyn erthygl sydd uchod am Fwdhaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.