Asanas eistedd

Oddi ar Wicipedia
Asanas eistedd
Hanumanasana
Mathasana Edit this on Wikidata

Osgo neu asana tra'n eistedd yw asana eistedd, sy'n cael ei ddefnyddio yn aml yn India a mannau eraill i fyfyrio ac yn y Gorllewin i gadw'n heini ac fel rhan o symudiadau ioga. Mae asanas eistedd ioga'n cynnwys ystumiau lle cedwir y coesau'n syth neu wedi'u plethu, eu plygu ymlaen neu eu troelli. Mae'r mathau hyn o ystumiau yn briodol ar gyfer ymarferwyr ioga a myfyrdod ar bob lefel gan ddefnyddio propiau yn ôl yr angen i hyrwyddo aliniad diogel. Mae'r mwyafrif o ystumiau eistedd ioga'n addas ar gyfer myfyrwyr ioga sy'n ddechreuwyr.

Mae ystumiau eistedd yn ddelfrydol ar gyfer gwella hyblygrwydd trwy ymestyn y coesau (llinyn y gar, quads a'r ffer), y cefn, a'r cyhyrau o amgylch y clun. Gall eistedd ar y llawr ddarparu sefydlogrwydd, sy'n hwyluso agor y coesau a'r breichiau, ond nid yw'n gyffyrddus i bawb. Mae codi'r cluniau yn aml yn helpu'r asgwrn cefn i ddod i aliniad mwy cynaliadwy.

Mewn ioga clasurol ceir 5 grwp neu fath o asana eistedd:

Asanas Ioga Swtras[golygu | golygu cod]

Mae'r osgo Padmasana neu Lotus ymhlith y deuddeg asana myfyrdod a enwir yn sylwebaeth Bhasyacyd-fynd â Swtrâu Ioga Patanjali.
Gomukhasana (Wyneb y Fuwch)

Mae Swtrâu Ioga Patanjali yn disgrifio ioga fel un sydd ag wyth cangen, ac un o'r wyth hyn yw'r asana. Un grwp o fewn yr asanas yw asanas eistedd a cheir hefyd asanas sefyll, asanas ymlacio (a myfyrio). Nid yw'r swtras yn enwi unrhyw asanas, ond maent yn nodi nodweddion asana da, gan ddweud:[1]

स्थिरसुखमासनम् ॥४६॥
sthira sukham āsanam
Dylai ei safle, eich osgo myfyrio fod yn gyfforddus ac yn un y gellir ei ddal am gyfnod hir. Yoga Sutras 2:46

Mae'r Swtras wedi'u hymgorffori yn sylwebaeth Bhasya, ac mae ysgolheigion bellach yn credu fod y cyfan wedi'u sgwennu gan yr un awdur;[2] mae'n enwi 12 asana myfyrdod tra'n eistedd, pob un o bosibl yn plethu'r coesau, gan gynnwys Padmasana, Virasana, Bhadrasana (a elwir bellach yn Baddha Konasana), a Svastikasana.[3]

Ioga hatha[golygu | golygu cod]

Ymhlith y gwahanol fathau o ioga sy'n cynnwys ymarfer myfyrdod, rheoli anadl neu pranayama, ac ati, ioga hatha yw'r un sy'n cyfeirio at ymarfer corfforol yr asanas. Mae'r asanas hyn yn canolbwyntio ar adfywio ynni chakras neu'r sianeli ynni. Rhennir asanas ioga Hatha ymhellach i wahanol fathau yn dibynnu ar safle'r corff. Mae'r rhain yn cynnwys ystumiau lle mae'r person yn eistedd, sefyll, cydbwyso neu droelli'r corff. O'r holl asanas hyn, disgrifir posau yoga fel y rhai mwyaf cyson a chyffyrddus.

Rhai asanas eistedd

Rhestr Wicidata:

rhif enw isddosbarth o'r canlynol delwedd Cat Comin
Akarna Dhanurasana asanas eistedd
Akarna Dhanurasana
Ardha Matsyendrasana (Hanner Arlgwydd y Pysgod) asanas eistedd
ioga Hatha
asanas ymlaciol
Ardha Matsyendrasana
Baddha Konasana (Y Teiliwr) asanas eistedd
asanas ymlaciol
Baddha Konasana
Baddha Koormamunyasana asanas eistedd
Baddha Samakonasana asanas eistedd
Bharadvajasana asanas eistedd
Bharadvājāsana
Bharmanasana (Y Bwrdd) asanas eistedd
Dandasana (Y Ffon) asanas eistedd
asanas ymlaciol
Daṇḍāsana
Dwi Hasta Pada Utthita Stiti Eka Pada Bhekasana asanas eistedd
Eka Pāda Rājakapotāsana I Rajakapotasana (Yr Alarch)
asanas eistedd
Garbhasana asanas eistedd
Garbhāsana
Gomukhasana asanas eistedd
ioga Hatha
Gomukhāsana
Gorakshasana asanas eistedd
asanas ymlaciol
Gorakṣāsana
Gorakṣāsana (Bugail Gwartheg) ioga Hatha
asanas eistedd
Guptāsana (Y Gyfrinach) Siddhasana
asanas eistedd
ioga Hatha
asanas ymlaciol
Hanumanasana (Y Mwnci) asanas eistedd
Hanumanasana
Ioga mudrasana Padmasana (Lotws)
asanas eistedd
Janusirsasana asanas eistedd
Jānuśīrṣāsana
Jatharaparivrttasvastikasana Svastikasana (Yr Addawol)
asanas eistedd
Kraunchasana (Y Crëyr) asanas eistedd
Kraunchasana
Kurmasana (Y Crwban) asanas eistedd
ioga Hatha
Kurmasana
Marichyasana asanas eistedd
Maricyāsana
Marichyasana I asanas eistedd
Marichyasana II Marichyasana
asanas eistedd
Marichyasana III asanas eistedd
Muktasana Siddhasana
asanas eistedd
ioga Hatha
asanas ymlaciol
Mulabandhasana asanas eistedd
asanas ymlaciol
Mulabandhasana
Navasana (Y Cwch) asanas eistedd
Nāvāsana
Padmasana (Lotws) asanas eistedd
ioga Hatha
asanas ymlaciol
Padmāsana
Parivrtta Prapadasana Malasana (Y Goron)
asanas eistedd
Pasasana asanas eistedd
Pasasana
Paschimottanasana asanas eistedd
ioga Hatha
Paścimottānāsana
Prapada Matsyendrasana asanas eistedd
Prasāritapādottānāsana asanas eistedd
Puranasana asanas eistedd
Rajakapotasana (Yr Alarch) asanas eistedd
Eka Pada Rajakapotasana
Shatkonasana asanas eistedd
Suptabaddha-koṇasana asanas eistedd
Svastikasana (Yr Addawol) asanas eistedd
ioga Hatha
asanas ymlaciol
Tarasana Baddha Konasana (Y Teiliwr)
asanas eistedd
Uddiyana bandha asanas eistedd Uddiyana Bandha
Upaviṣṭa Koṇāsana asanas eistedd
Upaviṣṭakoṇāsana
Uttana Kurmasana (Y Crwban) Kurmasana (Y Crwban)
asanas eistedd
ioga Hatha
Virasana (Yr Arwr) asanas eistedd
ioga Hatha
Virasana
Yogāsana (Teiliwr hapus) asanas eistedd
ioga Hatha
Yoni Dandasana Mulabandhasana
asanas eistedd
parvatasana asanas eistedd
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Patanjali. Yoga Sutras. t. Book 2:46.
  2. Maas, Philipp A. (2006). Samādhipāda. Das erste Kapitel des Pātañjalayogaśāstra zum ersten Mal kritisch ediert [Samādhipāda | The First Chapter of the Pātañjalayogaśāstra for the First Time Critically Edited] (yn Almaeneg). Aachen: Shaker.
  3. Āraṇya, Hariharānanda (1983). Yoga Philosophy of Patanjali. State University of New York Press. t. 228 and footnotes. ISBN 978-0873957281.