Ynysoedd Hawaii
Oddi ar Wicipedia
Ynysfor yng Ngogledd y Cefnfor Tawel yw Ynysoedd Hawaii (Hawäieg: Mokupuni o Hawai‘i) sy'n cynnwys wyth prif ynys, nifer o atolau, nifer o ynysigau llai, a morfynyddoedd. Ac eithrio Midway, sydd yn diriogaeth anghorfforedig o'r Unol Daleithiau, mae Ynysoed Hawaii yn ffurfio Hawaii, un o daleithiau'r Unol Daleithiau. Hen enw'r ynysfor oedd Ynysoedd Sandwich, enw a roddwyd gan y fforiwr James Cook.