Ynys Toraigh
Oddi ar Wicipedia
Ynys oddi ar arfordir gogledd-orllewin Iwerddon yw Ynys Toraigh (Saesneg: Tory Island). Saif yn Swydd Donegal, tua naw milltir o'r man agosaf ar y tir mawr.
Mae poblogaeth yr ynys tua 170, y mwyafrif yn siaradwyr Gwyddeleg fel iaith gyntaf. Ffurfia'r ynys ran o'r Gaeltacht. Mae hefyd yn safle bwysig i nifer o rywogaethau o adar, yn enwedig Rhegen yr Ŷd.