Ynys Sgogwm
Math | ynys |
---|---|
Poblogaeth | 0 |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro |
Sir | Marloes a Sain Ffraid |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1.06 km² |
Gerllaw | Sianel San Siôr |
Cyfesurynnau | 51.698452°N 5.276802°W |
Hyd | 1.6 cilometr |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Ynys anghyfannedd oddi ar arfordir de-orllewin Sir Benfro yw Ynys Sgogwm[1] (Hen Norseg: Skokholm, o skok ("coed") a holm ("ynys isel"); Saesneg: Skokholm), sy'n gorwedd i'r de o Ynys Sgomer. Ei arwynebedd yw tua 1 filltir sgwâr.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Mae'r ynys yn enwog am ei chlogwyni Hen Dywodfaen Coch sy'n gartref i nifer o adar môr. Gellir hwylio i'r ynys ar gychod o Martin's Haven ar y tir mawr, ond rhaid cael caniatâd ymlaen llaw gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru i lanio arni. Ynghyd ag Ynys Sgomer, mae'r cyfan yn warchodfa natur a'r môr oddi amgylch yn warchodfa môr.
Daeth yr ynys yn adnabyddus y tu allan i Gymru diolch i waith R. M. Lockley, ornitholegwr blaenllaw, a astudiodd adar yr ynys lle bu fyw am flynyddoedd lawer, gan gyhoeddi sawl llyfr ac erthygl amdani. Yn ogystal â'r nifer fawr o adar môr sy'n bridio yno mae hefyd yn safle da i adar mudol sydd weithiau'n denu adar prin iawn.
Hanes
[golygu | golygu cod]Ystyr Sgogwm neu Skokholm yw "ynys goediog". Rhoddwyd ei henw iddi gan y Llychlynwyr a mordeithiau i foroedd de-orllewin Cymru ar ddechrau'r Oesoedd Canol gan adael enwau Norseg ar sawl ynys a llecyn arfordirol arall yn yr ardal. Mae'r enw'n gyffelyb ei ystyr i Stockholm, prifddinas Sweden.
Prynwyd yr ynys am £300 yn 1646 gan gyfreithiwr o'r enw William Philipps, ac arhosodd yn y teulu am 360 o flynyddoedd hyd farwolaeth ei ddisgynnydd olaf Mrs Osra Lloyd-Philipps (1920 - 24 Mawrth, 2005), perchennog Castell Dale. Gwerthwyd yr ynys i'r ymddiriedolaethau natur oedd yn gofalu amdani yn Ebrill 2006, diolch i roddion sylweddol gan aelodau o'r cyhoedd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Mae "Sgogwm" yn ymddangos yng Ngeiriadur yr Academi.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Sgogwm ar wefan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru Archifwyd 2011-07-16 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Prynu'r ynys