Ynys Gored Goch

Oddi ar Wicipedia
Ynys Gored Goch
Mathynys, gored Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr30 troedfedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2186°N 4.1809°W Edit this on Wikidata
Map

Mae Ynys Gored Goch yn ynys fechan yn Afon Menai, rhwng Pont Britannia a Phont Y Borth, yng ngogledd Cymru. Mae'r ynys yn rhan o blwyf Llanfairpwllgwyngyll, ar Ynys Môn.

Am ei bod mor isel mae hi wastad mewn perygl o gael ei gorlifo gan y llanw uchel (fel mae'r llun yn dangos).

Mae'n cael ei henwi yn ôl yr hen gored a ddefnyddid yn yr Oesoedd Canol i ddal pysgod y môr.

Heb fod ymhell ohoni mae Pwll Ceris ac Ynys Welltog.

Ynys Gored Goch ar lanw uchel