Ynys Dysilio
Oddi ar Wicipedia
Mae Ynys Dysilio (Saesneg Church Island) yn ynys fechan yn Afon Menai, ger Porthaethwy.
Fe'i cysyllir â thir mawr Ynys Môn gan sarn a orchuddir weithiau pan fo'r llanw'n uchel iawn.
Enwir yr ynys ar ôl Tysilio Sant (fl. 6ed ganrif). Yn ôl traddodiad roedd gan y sant gell feudwy ar yr ynys. Saif eglwys ar y safle heddiw.
Mae nifer o enwogion wedi eu claddu yn y fynwent, yn cynnwys yr hanesydd John Edward Lloyd, y pensaer H. Harold Hughes a'r bardd Cynan.