Ynys Axel Heiberg
Oddi ar Wicipedia
Ynys yng ngogledd Canada yw Ynys Axel Heiberg (Saesneg: Axel Heiberg Island). Gydag arwynebedd o 43,178 km², hi yw seithfed ynys Canada o ran maint, a'r drydedd fwyaf o Ynysoedd Queen Elizabeth. Nid oes poblogaeth barhaol arni. Yn weinyddol, mae'r ynys yn rhan o diriogaeth Nunavut.
Darganfuwyd yr ynys gan Otto Sverdrup yn 1900, ac enwodd ef hi ar ôl y Conswl Axel Heiberg, cyd-sefydlydd y bragdy Norwyaidd Ringnes, oedd wedi rhoi cefnogaeth ariannol i'w ymgyrch.