Ynys (band)

Oddi ar Wicipedia
Ynys
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
Genrecerddoriaeth boblogaidd, synthpop Edit this on Wikidata
Ynys yn perfformio yn nhafarn Y Cŵps, Aberystwyth

Band pop o Aberystwyth yw Ynys. Prif leisydd a symbylydd y grŵp yw Dylan Hughes bu gynt yn aelod o'r grwpiau Radio Luxembourg a newidiodd eu henw wedyn i Race Horses ac yna, Endaf Gremlin. Mae eu caneuon yn gwneud defnydd o'r syntheseinydd a disgrifir eu caneuon fel "haenog a melodig" [1] Mewn cyfweliad i bapur bro Aberystwyth, Yr Angor, disgrifia Dylan Hughes y gerddoriaeth fel, "pop amgen o'r un brethyn ag ELO, Elliot Smith, Teenage Fanclub, a Gorky's Zygotic Mynci." Disgrifiwyd y sain gan eraill fel "Cyfoethog ac yn sinematig ei naws ond eto i gyd yn fachog ac yn hawdd gwrando arno. Gan ddefnyddio synths diddorol o’r 80au a haenau o gitarau ‘jangli’ a lleisiau hyfryd sydd yn harmoneiddio yn gelfydd," Bu’r band yn perfformio set byw ar sioe boblogaidd a dylanwadol, Mark Riley ar BBC Radio 6 Music. Bu un o’r senglau oddi ar yr albwm Ynys, sef ‘Môr Du’, yn 'Trac yr Wythnos' ar BBC Radio Cymru ym mis Hydref 2022.[2]

Hanes[golygu | golygu cod]

Ffurfiwyd y band yn 2019 pan bu i Hughes a ddau ffrind a chyn-aelodau Race Horses, Gwion Llewelyn a Mali Llywelyn, recodio caneuon yn stiwdio Iwan Morgan yn Lerpwl sydd wedi recordo grwpiau eraill i Label Libertino.[3] Mewn cyfweliad i bapur bro Aberystwyth, Yr Angor, esboniodd Dylan sut iddo gael awydd recordio caneuon newydd a meddwl 'beth yw'r gwaethaf gall ddigwydd?". Penderfynodd Dylan Hughes beidio recordio o dan ei enw ei hun ac mae'n "falch iawn i mi ddewis Ynys o edrych yn ôl ar rai o'r syniadau eraill!".

Aelodau[golygu | golygu cod]

Mae sawl gwahanol cerddor wedi cydweithio a recordio gyda'r grŵp:

Dylan Hughes - gitâr, syntheseinydd, piano, llais
Gwion Llewelyn - dymiau, llais, offer taro, girâr
Matthew Fry - gitâr fâs
Mali Llywelyn - telyn, llais
Eifion Austin - gitâr fâs
Siôn Rhys Jones - gitâr
Aled Evans - drymiau
Frank Naughton - offer taro
Heledd Watkins - gitâr fâs
Tara Bethan - allweddellau a llais

Disgograffi[golygu | golygu cod]

Ymysg caneuon mwyaf adnabyddus y grŵp mae Caneuon Mae'n Hawdd, Aros am Byth, a Môr Du. Ym mis Medi rhyddhawyd fideo Newid gan Lŵp.[4]

Senglau[golygu | golygu cod]

  • Caneuon
  • Mae'n Hawdd Label Libertino, 2019
  • Aris am Byth

Albwm[golygu | golygu cod]

  • Ynys - Label Libertino, 2022[5]

Fideos[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gadael sŵn y ddinas ar ôl". Golwg. 20 Hydref 2022.
  2. "Gigs Cantre'r Gwaelod: Dychwelyd gyda dau gig o safon cyn diwedd 2022". Gwefan newyddion BroAber360. 24 Hydref 2022.
  3. ""Welsh music is not a genre." Welsh artist Ynys chats to Northern Soul". Northern Soul. 21 Awst 2019.
  4. "Ynys - Newid". Sianel Lŵp ar Youtube. 2022.
  5. "Ynys". Bandcamp. 2022.