Race Horses

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Am yr orsaf radio, gweler Radio Luxembourg.
Radio Luxembourg
Diwrnod efo'r Anifeiliaid.jpg
Clawr EP Diwrnod efo'r Anifeiliaid
Gwybodaeth gefndirol
Man geni Baner Cymru Aberystwyth
Cerddoriaeth Pop seicadelig
Blynyddoedd 2005–
Label(i) recordio Recordiau Peski
Fantastic Plastic
Gwefan http://radiolux.steffan.org.uk
Aelodau
Meilyr Jones, Dylan Hughes,
Alun Gaffey, Gwion Llewelyn
Cyn aelodau
Ben Herrick
Prif offeryn(au)
Llais, gitâr, gitâr fas, synth, drymiau

Grŵp pop seicadelig a ffurfiwyd yn Aberystwyth yn 2005 yw Race Horses, adnabyddwyd fel Radio Luxembourg gynt. Diolch i gigio a recordio cyson mae'r grŵp yma wedi profi llwyddiant mawr mewn amser byr iawn. Prif ganwr a chyfansoddwr y band yw Meilyr Jones (gynt o'r band Mozz) - sydd hefyd yn chwarae'r gitâr fas. Mae Dylan "Huggies" Hughes yn chwarae'r synth. "Bass Drum" Ben Herrick sy'n chwarae'r drymiau. Alun "Gaff" Gaffey (sydd hefyd yn chwarae i'r grwp ffwnc a sgiffl Pwsi Meri Mew) sy'n chwarae'r gitâr. Mae eu holl waith hyd yn hyn wedi ei gynhyrchu gan Euros Childs. Dylunwyd clawr eu dau EP diweddaraf, Diwrnod efo'r Anifeiliaid a Where is Dennis? / Cartoon Cariad gan Ruth Jên, mae hi hefyd wedi dylunio set ar y cyd gyda'r band ar gyfer eu perfformiadau byw.

Gadawodd y drymiwr Ben Herrick y band yn hwyr yn 2008, a fe gymerwyd ei le gan Gwion Llewelyn.

Newidwyd enw'r band o Radio Luxembourg i Race Horses ym mis Chwefror 2009, oherwydd y problemau cyfreithiol ynghlwm a rhannu enw gyda'r orsaf radio o'r un enw.

Cyhoeddwyd fod y band yn gwahanu yn mis Ionawr 2013 am resymau creadigol.[1][2]

Disgograffi[golygu]

Radio Luxembourg[golygu]

Race Horses[golygu]

  • Cake / Cacen Mamgu
  • Goodbye Falkenburg
  • Furniture

Gwobrau ac Anrhydeddau[golygu]

  • Sesiwn C2 - Gwobrau Roc a Phop C2 2006
  • EP/Sengl - Gwobrau Roc a Phop C2 2006
  • Y Grŵp a Ddaeth Fwyaf i Amlygrwydd yn Ystod 2005 - Gwobrau Roc a Phop C2 2006
  • EP/Sengl/Lawrlwythiad - ar gyfer Os Chi'n lladd Cindy - Gwobrau Roc a Phop C2 2007
  • Band/Artist y Flwyddyn - Gwobrau Roc a Phop C2 2007

Cysylltiadau allanol[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]