Y Cywyddwyr (Llyfrau'r Ford Gron)

Oddi ar Wicipedia
Y Cywyddwyr

Y Cywyddwyr yw'r 12fed llyfr yn y gyfres Llyfrau'r Ford Gron o dan olygyddiaeth John Tudor Jones (John Eilian). Fe'i cyhoeddwyd gan wasg Hughes a'i fab. Does dim dyddiad cyhoeddi ar y llyfr. Mae'r copi ohono sydd ar Internet Archive yn rhoi'r dyddiad cyhoeddi fel 1900[1], ond gan fod hynny yn dair blynedd cyn geni'r golygydd, mae'n sicr yn anghywir. Ceir hysbyseb am y llyfr yng nghylchgrawn y Ford Gron ym 1932, sydd yn awgrymu mae yn gynnar yn y flwyddyn honno cafodd ei chyhoeddi.[2]

Mae'n llyfr byr sy'n cynnwys 50 o dudalennau. Ceir ynddi esiamplau o waith gan naw o feirdd a fu'n canu rhwng y 14g a'r 16g. Llywelyn Goch Amheirig Hen, Iolo Goch, Siôn Cent, Dafydd Nanmor, Lewis Glyn Cothi, Dafydd ab Edmwnt, Tudur Aled, Gruffydd Hiraethog a Wiliam Llŷn.

Mae'r llyfr yn cynnwys rhagair lle mae John Eilian yn rhoi cyflwyniad byr i ganu a bywydau'r naw bardd ac yna daw esiamplau o'u gwaith:—

Ar ôl y cerddi mae geirfa fer o'r geiriau llai cyffredin sydd yn y gweithiau.

Mae copïau ar lein ar gael ar yr Internet Archive[1] ac ar Wicidestun

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Y Cywyddwyr : Llywelyn Goch Amheirig Hen, Iolo Goch, Sion Cent, Dafydd Nanmor, Lewis Glyn Cothi, Dafydd ab Edmwnt, Gruffydd Hiraethog, Wiliam Llyn. Wrecsam : Hughes a'i Fab. 1900.
  2. "Y ford gron, papur Cymry'r byd. | Cyfrol 2, Rhif 6 | 1932 | Cylchgronau Cymru - Llyfrgell Genedlaethol Cymru". cylchgronau.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2022-01-24.