William Simons

Oddi ar Wicipedia
William Simons
GanwydClifford William Cumberbatch Simons Edit this on Wikidata
17 Tachwedd 1940 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw21 Mehefin 2019 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, actor teledu, cyflwynydd Edit this on Wikidata

Actor a aned yng Nghymru oedd William Simons (17 Tachwedd 194021 Mehefin 2019)[1]. Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei rôl fel PC Alf Ventress yn Heartbeat, rôl a chwaraeodd am 18 mlynedd rhwng 1992 a 2010.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Simons yn Abertawe lle roedd ei dad wedi'i leoli yn ystod yr Ail Ryfel Byd a chafodd ei fagu yn Ne Cymru nes i'r teulu symud i Ogledd Llundain. Dechreuodd actio fel plentyn[2], gan ymddangos yn y ffilmiau No Place for Jennifer (1950), Where No Vultures Fly (1951) a West of Zanzibar (1954). Yna dioddefodd o acne difrifol a gweithiodd fel rheolwr llwyfan am bedair blynedd cyn penderfynu dod yn actor fel oedolyn.[3]

Heartbeat[golygu | golygu cod]

Chwaraeodd PC Ventress drwy gydol yr 18 mlynedd o gyfres Heartbeat. Er ei fod yn chwarae ysmygwr trwm, nid oedd Simons yn ysmygu mewn bywyd go iawn a rhoddwyd sigaréts llysieuol iddo i chwarae y rhan.[3] Mae'r cymeriad yn blismon sydd yn ddiffygiol o ran yr ochr gorfforol ond yn gwneud yn iawn am hynny gyda'i 'wybodaeth leol'. Ventress yw'r swyddog sydd wedi gwasanaethu hiraf am lawer o'r ddrama ac yn aml mewn rôl fel rhingyll dros dro pan mae Blaketon, Craddock a Merton yn absennol. Mewn cyfresi hwyrach o'r ddrama, mae Ventress yn cael ei orfodi i ymddeol o'r heddlu ond mae'n parhau fel aelod sifil o'r tîm ac mae hefyd yn helpu Oscar Blaketon ( Derek Fowlds) mewn rôl ymchwil breifat.

Rhannau actio eraill[golygu | golygu cod]

Roedd rhannau eraill yn cynnwys rôl yn Crown Court fel y bargyfreithiwr Martin O'Connor QC,[4] The Inspector Alleyn Mysteries fel yr Arolygydd Fox, Cribb fel Cwnstabl Thackeray a'r stori Doctor Who, "The Sun Makers", fel Mandrel. Ymddangosodd hefyd yn Auf Wiedersehen Pet, Coronation Street, The Sweeney, Minder, Dempsey & Makepeace, Last of the Summer Wine, The Darling Buds of May, Wish Me Luck, Bergerac, Casualty a Lovejoy.

Gwaith elusennol[golygu | golygu cod]

Roedd yn noddwr i'r elusen Changing Faces sy'n helpu pobl sydd wedi dioddef anffurfiadau gwyneb.[3]

Ffilmyddiaeth rhannol[golygu | golygu cod]

  • No Place for Jennifer (1950) - Jeremy
  • Where No Vultures Fly (1951) – Tim Payton
  • West of Zanzibar (1954) – Tim Payton
  • Not So Dusty (1956) – Derek Clark
  • On the Fiddle (1961) – Private (uncredited)
  • Mystery Submarine (1963) – Leading Seaman Grant
  • Clash by Night (1964) – Guard Outside Barn (uncredited)
  • Pope John Paul II (1984, TV film) – Foreman Krauze
  • The Woman in Black (1989, TV film) – John Keckwick

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "In memory of Yorkshire actor William Simons who starred in every Heartbeat series". The Yorkshire Post (yn Saesneg). 22 Mehefin 2019. Cyrchwyd 22 Mehefin 2019.
  2. http://www.boyactors.org.uk/actors/2389.jpg
  3. 3.0 3.1 3.2 Padman, Tony (7 September 2013). "Whatever happened to Heartbeats PC Alf Ventress" (yn Saesneg). The Sunday Express. Cyrchwyd 10 August 2014. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  4. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-06-29. Cyrchwyd 2019-06-23.

Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod]