Will Osborne

Oddi ar Wicipedia
Will Osborne
Enw llawn William Thomas Osborne
Dyddiad geni (1875-06-11)11 Mehefin 1875
Man geni Aberpennar
Dyddiad marw 24 Mawrth 1942(1942-03-24) (66 oed)
Lle marw Oakengates Swydd Amwythig
Taldra 5' 11"[1]
Pwysau 13st 0lb[1]
Gwaith glöwr
Gyrfa rygbi'r gyngrair
Safle blaenwr
Clybiau proff.
Blynydd Clwb / tîm Capiau (pwynt)
1903–06
1906–10
Huddersfield
Hull F.C.
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
Safle blaenwr
Clybiau amatur
Blynyddoedd Clwb / timau
?-1903 Aberpennar
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau
1902–1903  Cymru 6 (3)

Roedd William Thomas Osborne (11 Mehefin 1875 - 24 Mawrth 1942) [2] yn flaenwr rygbi rhyngwladol Cymreig a chwaraeodd rygbi'r undeb i Heddlu Morgannwg ac Aberpennar. Chwaraeodd Osborne mewn chwe gêm ryngwladol, gan ddod yn enillydd y Goron Driphlyg pan chwaraeodd i Gymru ym mhob un o dair gêm Pencampwriaeth y Pedair Gwlad 1902. Yn anterth ei yrfa ryngwladol, 'Aeth i Ogledd Lloegr', gan newid i rygbi'r gynghrair proffesiynol, lle fu'n cynrychioli Huddersfield a Hull FC

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Will Osborne yn Aberpennar yn fab i Ann Osborne. Ychydig wedi ei eni priododd ei fam â James Nott a chafodd Osborne ei fagu gan ei lystad. Mewn cyfnod lle'r oedd rygbi yn gêm amatur roedd yn ennill ei fywoliaeth fel glöwr. Ym 1904 gorfodwyd Osborne i dalu tâl cynhaliaeth tuag at gadw plentyn siawns a gafodd efo Mary Oriele [3]. Priododd â Minnie Jackson yn Wellington swydd Amwythig ar ddiwedd 1913, bu iddynt ferch. Ychydig ar ôl ei briodas a genedigaeth ei blentyn cyfreithiol cafodd ei garcharu am ddau fis am beidio â thalu cynhaliaeth am ei blentyn anghyfreithiol.[4].

Gyrfa rygbi[golygu | golygu cod]

Chwaraeodd Osborne ei rygbi amatur i glwb Aberpennar. Roedd ac yn 5 troedfedd 11½ modfedd ac yn pwyso dros 13 stôn,[5] corffoledd nodweddiadol o "flaenwyr y Rhondda" oedd yn cael ei ffafrio gan y detholwyr Cymreig tua throad y ganrif.

Chwaraeodd Osborne ei gêm gyntaf i dîm cenedlaethol Cymru pan gafodd ei ddewis i wynebu Lloegr yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth y Pedair Gwlad 1902.[6] Roedd Osborne yn un o saith cap newydd, ac ymunodd pedwar ohonynt ag Osborne mewn pac oedd wedi newid yn sylweddol. Er nad oedd ganddynt brofiad rhyngwladol, aeth llawer o'r chwaraewyr a enillodd eu capiau cyntaf y diwrnod hwnnw ymlaen i ffurfio cnewyllyn tîm Cymru a gurodd Y Crysau Duon ym 1905, gan gynnwys Arthur Harding, Will Joseph, a'i gyd löwr Dai "Tarw" Jones. Mewn gêm agos iawn, sgoriodd Osborne ei unig gais rhyngwladol. Enillodd Cymru'r gêm trwy gôl gosb hwyr gan John Strand-Jones. Ail ddewiswyd Osborne i wynebu'r Alban yn ail gêm y gyfres, a chwaraewyd cartref ym Mharc yr Arfau, Caerdydd. Cafwyd bygythiad gan Undeb Rygbi’r Alban y byddent yn gwrthod wynebu Cymru pe bai Osborne yn chwarae, gan fod sibrydion ei fod wedi derbyn ac arwyddo cytundeb proffesiynol gyda thîm rygbi’r gynghrair. Roedd hyn yn anghyfreithlon o dan reolau rygbi'r undeb, a oedd yn gamp amatur yn unig. Gorfodwyd Osborne i wneud datganiad llawn yn gwadu’r honiad, ac aeth yr ornest yn ei blaen gydag Osborne ym mhac Cymru.[7] Yr unig newid i dîm Cymru o’r gêm flaenorol oedd Harry Jones yn cael ei ddewis yn lle Nathaniel Walters o Lanelli, ac arweiniodd chwarae mwy rhugl Cymru at fuddugoliaeth dros dîm dawnus iawn o’r Alban.[8] Yng ngêm olaf y twrnamaint i Gymru gwelwyd tîm digyfnewid yn curo Iwerddon yn Lansdowne Road i ennill y Bencampwriaeth a'r Goron Driphlyg am y trydydd tro.

Ail ddewiswyd Osborne ar gyfer Pencampwriaeth 1903, gan chwarae ym mhob un o dair gêm Cymru. Ar ôl buddugoliaeth ragorol dros y Saeson yn St. Helen yn Abertawe,[9] collodd Cymru i ffwrdd i'r Alban mewn gêm a chwaraewyd mewn tywydd difrifol.[10] Dyma fyddai unig golled ryngwladol Osborne wrth i Gymru guro Iwerddon yn ei gêm ryngwladol olaf i Gymru ar 14 Mawrth 1903.[11]

Mae'n anodd dyfalu os byddai Osborne wedi ennill cap rhyngwladol arall, oherwydd ym mis Medi 1903 arwyddodd cytundeb proffesiynol gyda Chlwb Rygbi'r Gynghrair Huddersfield, fel blaenwr. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ar 5 Medi ac erbyn Hydref 1906 roedd wedi trosglwyddo i Hull FC [7]

Chwaraeodd Osborne fel blaenwr, hy rhif 9, yng ngêm gyfartal 7-7 Hull FC yn erbyn Leeds yn Rownd Derfynol Cwpan Her 1910 yn ystod tymor 1909-10 yn Fartown Ground, Huddersfield, ddydd Sadwrn 16 Ebrill 1910, o flaen a thorf o 19,413, hwn oedd y tro cyntaf yn hanes y Cwpan Her i'r gêm derfynol bod yn gyfartal, chwaraeodd fel rhif 9 eto yn y gornest ail chware pan gafodd Hull ei threchu 12-26 gan Leeds ar ddydd Llun 18 Ebrill 1910, o flaen torf o 11,608.

Bywyd ddiweddarach[golygu | golygu cod]

Fe roddodd Osborne y gorau i’w chwarae proffesiynol ym 1912, pan symudodd i Oakengates, Swydd Amwythig, lle bu’n gweithio fel glöwr. Roedd hefyd yn hyfforddwr yng nghlwb pêl-droed y gymdeithas leol Wellington St Georges. Bu farw yn ei gartref, 53 The Nabb, Oakengates, ar 24 Mawrth 1942, yn chwe deg chwech oed, a chladdwyd ei weddillion yn eglwys blwyf Eglwys San Siôr.[12]

Gemau rhyngwladol[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Godwin, Terry (1984). The International Rugby Championship 1883–1983. Llundain: Willows Books. ISBN 0-00-218060-X.
  • Jenkins, John M.; et al. (1991). Who's Who of Welsh International Rugby Players. Wrexham: Bridge Books. ISBN 1-872424-10-4.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
  • Thomas, Wayne (1979). A Century of Welsh Rugby Players. Ansells Ltd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Ages Heights and Weights of the Welshmen - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1902-02-01. Cyrchwyd 2021-03-05.
  2. Will Osborne player profile Scrum.com
  3. "MOUNTAIN ASH FOOTBALLER'S CHILD - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1904-01-28. Cyrchwyd 2021-03-05.
  4. "Welsh International Footballer Sent to Prison - Pioneer". s.t. 1914-07-04. Cyrchwyd 2021-03-04.
  5. Smith (1980), tud 136.
  6. "TODAY'S GAME - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1902-01-11. Cyrchwyd 2021-03-05.
  7. 7.0 7.1 Jenkins (1991), tud 121.
  8. Godwin (1987), tud 66.
  9. "INTERNATIONAL FOOTBALL MATCH - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1903-01-16. Cyrchwyd 2021-03-05.
  10. "International at Edinburgh - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1903-02-07. Cyrchwyd 2021-03-05.
  11. "Today's Great Match at Cardiff - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1903-03-14. Cyrchwyd 2021-03-05.
  12. "Former England(sic) International – Death of W.T. Osborne, of Oakengates". Shrewsbury Chronicle. 27 March 1942. t. 5.