Wellington, Swydd Amwythig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 52°42′00″N 2°30′57″W / 52.7001°N 2.5157°W / 52.7001; -2.5157

Wellington, Swydd Amwythig
240px
Wellington is located in Y Deyrnas Unedig
Wellington

Wellington
Poblogaeth 24,200 
Awdurdod unedol Telford and Wrekin
Swydd seremonïol Swydd Amwythig
Rhanbarth
Gwlad Lloegr
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost TELFORD
Cod deialu 01952
Yr Heddlu
Tân
Ambiwlans
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Gorllewin Canol Lloegr
Senedd y DU The Wrekin
Rhestr llefydd: y DU • Lloegr •

Rhan o dref newydd Telford yng ngorllewin canolbarth Lloegr yw Wellington. Fe'i lleolir yn Swydd Amwythig fel rhan o fwrdeistref Telford a Wrekin. Mae'r dref yn dyddio i'r cyfnod Eingl-Sacsonaidd, ond, gyda datblygaid tref newydd Telford yn y 1960au a'r 1970au, daeth yn rhan o'r dref newydd honno. Mae'r dref wedi cadw ei hen gyfaredd ei hun gyda gorsaf trenau o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a llyfrgell Edwardaidd. Cafodd siarter fel tref farchnad ym 1244. Mae'r farchnad leol yno o hyd, yn agos i sgwâr y farchnad yng nghanol y dref. Mae gan y dref orsafoedd trenau a bysiau, ac mae traffordd yr M54 yn gyfagos. Poblogaeth Wellington yw 20,430 (Cyfrifiad 2001).


Salop arms.png Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Amwythig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato