W. J. Rees

Oddi ar Wicipedia
W. J. Rees
Ganwyd1914 Edit this on Wikidata
Tyddewi Edit this on Wikidata
Bu farw1995 Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdarlithydd, deon Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amLenin, Y meddwl Cymreig Edit this on Wikidata

Athronydd ac academydd o Gymro oedd William James "Bill" Rees (19141995) sy’n nodedig am ei gyfraniadau at ysgolheictod athronyddol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd William James Rees yn Nhyddewi a chafodd ei fagu ym Mhencaer, ger Abergwaun. Mynychodd Ysgol Uwchradd Tyddewi ac Ysgol Uwchradd Abergwaun. Yn ei arddegau, roedd yn bwriadu hyfforddi’n weinidog Cristnogol. Aeth i astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth gyda chymorth ariannol ei gyn-athro yn Abergwaun, D. J. Williams.[1]

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd swydd yn darlithio ar faterion cyfoes i’r Fyddin Brydeinig. Derbyniodd radd athroniaeth, gwleidyddiaeth ac economeg o Goleg Lincoln, Rhydychen yn 1948.[1]

Gyrfa academaidd[golygu | golygu cod]

Penodwyd Rees yn ddarlithydd cynorthwyol yn Adran Athroniaeth Aberystwyth yn 1948. Pan ddaeth ei gytundeb darlithio i ben yn 1951, nid adnewyddwyd ef, am fod ei daliadau comiwnyddol yn pryderu awdurdodau'r coleg. Am gyfnod bu'n symud yn ôl i fyw gyda'i fam yn Nhyddewi, ac yn gofalu am ei feibion, tra'r oedd ei wraig yn cynnal y teulu drwy weithio'n athrawes yn Welwyn Garden City.[1]

Yn 1953 derbyniodd Rees gymrodoriaeth ymchwil yng Ngholeg Bedford, Llundain. Mewn byr amser cafodd swydd dros dro yn addysgu athroniaeth ym Mhrifysgol Leeds. Ar ôl tair blynedd, gwnaethpwyd ei swydd yn un barhaol, a threuliodd weddill ei yrfa academaidd yn Leeds. Fe'i dyrchafwyd yn uwch-ddarlithydd ac yn bennaeth dros dro yr adran, ac yn ddeon Cyfadran y Celfyddydau. Ymddeolodd o'i yrfa academaidd yn 1980.[1]

Cyfraniadau at athroniaeth Gymraeg[golygu | golygu cod]

Clawr cyfieithiad Rees o’r Maniffesto Comiwnyddol.

Yn 1948, i ddathlu canmlwyddiant ers cyhoeddi’r Maniffesto Comiwnyddol gan Marx ac Engels, cyfieithodd Rees y gwaith hwnnw i'r Gymraeg ar gyfer Pwyllgor Cymreig y Blaid Gomiwnyddol. Ysgrifennodd y gyfrol am Lenin (1981) yng nghyfres y Meddwl Modern a golygodd y casgliad o ysgrifau Y Meddwl Cymreig (1995).

Bywyd personol a diwedd ei oes[golygu | golygu cod]

Fe briododd Peggy James yn Hwlffordd yn 1943. Bu farw yn 81 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 W. L. Gealy, "William James Rees (1914–1995)" yn Efrydiau Athronyddol cyfrol 59 (1996), tt. 1–5.