Vorarlberg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Vorarlberg

Talaith yng ngorllewin Awstria yw Vorarlberg (Alemanneg: Vorarlbearg). Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 360,168, yr ail-leiaf ymhlith taleithiau Awstria. Y brifddinas yw Bregenz, gyda phoblogaeth o 27,193, ond y ddinas fwyaf yw Dornbirn gyda phoblogaeth o 43,583.

Mae Vorarlberg yn ffinio yn y gogledd ar yr Almaen, yn y dwyrain ar dalaith Tirol, yn y de ac yn y gorllewin ar Liechtenstein a'r Swistir. Rhennir y dalaith yn bedair ardal (Bezirke):

Golygfa yn Vorarlberg


Taleithiau Awstria Baner Awstria
Awstria Isaf | Awstria Uchaf | Burgenland | Carinthia | Salzburg | Styria | Tirol | Vorarlberg | Wien