Burgenland
Oddi ar Wicipedia
Talaith yng nwyrain Awstria yw Burgenland (Hwngareg: Felsőőrvidék, Őrvidék, Várvidék neu Lajtabánság, Croateg: Gradišće, Bafareg: Buagnlånd). Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 277,569, yn cynnwys lleiafrifoedd ethnig Hwngaraidd a Chroataidd. Y brifddinas a'r ddinas fwyaf yw Eisenstadt, gyda phoblogaeth o 13,664.
Mae 87.4% o'r boblogaeth yn siarad Almaeneg fel mamiaith, 5.9% Croateg Burgenland, 2.4% Hwngareg, 1.3% Croateg, 0.1% Roma, 0.1% Slofaceg a 2.8% ieithoedd eraill (1991).
Rhennir y dalaith yn ddwy ddinas annibynnol (Statutarstädte) a 7 ardal (Bezirke).
[golygu] Dinasoedd annibynnol
[golygu] Ardaloedd
| Taleithiau Awstria | |
|---|---|
| Awstria Isaf | Awstria Uchaf | Burgenland | Carinthia | Salzburg | Styria | Tirol | Vorarlberg | Wien | |